'Cymro balch': Teyrnged Fulham i bennaeth recriwtio a ddatblygodd chwaraewyr fel Gareth Bale
Mae Malcom Elias, y "Cymro balch" oedd yn gyfrifol am ddatblygu llawer o chwaraewyr ifanc gan gynnwys Gareth Bale, wedi marw ar ôl cyfnod o salwch.
Fe wnaeth Mr Elias, pennaeth recriwtio academi Fulham, ymuno â'r clwb pêl-droed yn 2009 yn dilyn cyfnod yn gweithio i Southampton a Lerpwl.
Mewn datganiad, dywedodd CPD Fulham: "Gyda thristwch dwys yr ydym yn cyhoeddi marwolaeth ein cydweithiwr a'n ffrind annwyl, Malcolm Elias, ar ôl salwch byr.
"Roedd gan bennaeth recriwtio academi'r clwb, Malcolm, enw gwych ym myd pêl-droed am ddatgelu a meithrin talent ifanc.
"Yn Gymro balch, roedd Malcolm yn agosáu at ei 16eg pen-blwydd yn stadiwm Craven Cottage yr haf hwn."
Fe aeth y datganiad ymlaen i ddweud nad oedd modd "diystyru'r dylanwad a gafodd ar y gêm fodern".
"Yn ffigwr hynod boblogaidd o amgylch y maes hyfforddi, bydd colled fawr ar ôl Malcolm gan bawb oedd yn ei adnabod," meddai'r clwb.
"Mae ein meddyliau a'n gweddïau'n mynd allan at Paula - gwraig ymroddedig a chefnogol Malcolm ers bron i 50 mlynedd - ei feibion Andrew a Daniel, ei chwech o wyrion annwyl, yn ogystal â'i deulu a'i ffrindiau ychwanegol."
Cafodd Mr Elias ei eni yn Abertawe.
Fe wnaeth ddechrau ei yrfa gyda CPD Dinas Abertawe fel rheolwr academi yn 1995, cyn symud ymlaen i Southampton ac yna Lerpwl.
Roedd yn allweddol yn natblygiad Gareth Bale yn academi Southampton, ac fe fu'n gyfrifol hefyd am ddatblygu gyrfaoedd Theo Walcott, Alex Oxlade-Chamberlain, Luke Shaw, Adam Lallana, Calum Chambers a James Ward-Prowse.
Fe aeth Bale ymlaen i ennill 111 o gapiau dros Gymru a chwarae i Real Madrid.
Llun: CPD Fulham