Ymgyrchwyr sy'n brwydro i arbed archifdy Prifysgol Bangor wedi eu 'llethu' gan y gefnogaeth
Mae ymgyrchwyr sy'n brwydro i arbed archifdy Prifysgol Bangor yn dweud eu bod wedi cael eu "llethu" gan y gefnogaeth.
Dywedodd yr ymgyrchwyr eu bod nhw wedi derbyn negeseuon o bob cwr o'r byd, gyda bron i 3,000 o bobl yn arwyddo deiseb i arbed yr archifdy rhag toriadau.
Daw'r gefnogaeth ar ôl i'r brifysgol ddweud fis Mai bod ei hadran Archifau a’r Casgliadau Arbennig yn rhan o ymgynghoriad ar dorri costau yn y sefydliad.
Dywedodd yr Athro Edmund Burke wrth staff bod y brifysgol yn chwilio am "tua £5.3 miliwn" sy'n "cynrychioli tua 78 o swyddi cyfwerth ag amser llawn".
Mae dau aelod o staff llawn amser a dau aelod o staff rhan-amser yn gweithio yn yr archifdy, ond roedd awgrym y gallai tri ohonyn nhw golli eu swyddi.
Yn dilyn pwysau gan wleidyddion, mae swyddogion y brifysgol bellach wedi cadarnhau bod y cynnig hwnnw "yn cael ei adolygu".
Bydd y cyfnod ymgynghori ar y cynnig yn dod i ben ddydd Gwener 13 Mehefin.
'Diolchgar'
Dywedodd Elen Wyn Simpson, rheolwr Archifau a’r Casgliadau Arbennig ar gyfer gwasanaethau digidol, ei bod yn "ddiolchgar" o'r gefnogaeth.
"Rydym wedi ein llethu gan gryfder y gefnogaeth yr ydym wedi ei gael," meddai.
"Rydym hefyd yn ddiolchgar i bawb sydd wedi cymryd yr amser i esbonio pwysigrwydd yr Archifau a’r Casgliadau Arbennig.
"Nid yw hyn yn ymwneud â swyddi yn unig – mae’n ymwneud â dyfodol ein casgliadau archifol a Phrifysgol Bangor fel ceidwad ein casgliadau."
Mae’r archifdy yn gyfrifol am gasglu a chadw llawysgrifau, casgliadau archifol ac ystod amrywiol o lyfrau prin a deunydd printiedig.
Eitem gynharaf yr archifdy yw siarter a gyhoeddwyd gan y Brenin Rhisiart I yng Nghaergaint i Esgob Coventry, sy'n dyddio yn ôl i 30 Tachwedd, 1189.
"Mae’n ddogfen eithaf pwysig sy'n cael ei defnyddio mewn sesiynau addysgu gyda’n myfyrwyr gan ei bod yn enghraifft gynnar o ddatblygiadau newydd ar ffurf siarter frenhinol Lloegr," meddai Ms Simpson.
Mae'r archifdy yn cynnwys eitemau gan gynnwys llawysgrifau gwreiddiol y beirdd Cymreig R.S. Thomas a Hedd Wyn.
Hefyd, mae'n geidwad papurau ystadau Cymru gan gynnwys Penrhyn, Mostyn, Bodorgan, a Phlas Newydd.
Mae yna hefyd ddogfennau sy'n ymwneud â'r Cymry a ymfudodd i Batagonia.
Ychwanegodd Elen ei bod yn gobeithio y bydd y gefnogaeth yn parhau.
"Rydym yn parhau i ofyn i bobl lofnodi'r ddeiseb," meddai.
"Ac os yw pobl yn teimlo'n gryf am y toriadau yr ydym yn eu hwynebu, rydym yn gofyn iddynt ysgrifennu llythyr cefnogaeth.
"Nid ydym yn gwybod beth fydd yn digwydd ar hyn o bryd, nid oes dim wedi'i benderfynu eto, felly rydym yn gobeithio y bydd pobl yn dal i'n cefnogi."