Croesawu penderfyniad Prifysgol Bangor i ailystyried toriadau i'w harchifdy
Mae Aelodau Seneddol wedi croesawu penderfyniad Prifysgol Bangor i ailystyried toriadau i'w harchifdy.
Yr wythnos diwethaf, dywedodd y brifysgol bod ei hadran Archifau a’r Casgliadau Arbennig yn rhan o ymgynghoriad ar dorri costau yn y sefydliad.
Dywedodd yr Athro Edmund Burke mewn llythyr at staff bod y brifysgol yn chwilio am "tua £5.3 miliwn" sy'n "cynrychioli tua 78 o swyddi cyfwerth ag amser llawn".
Ers hynny mae dros 2,700 o bobl wedi arwyddo deiseb i arbed yr archifdy rhag toriadau a fyddai'n "arwain at fygythiad sydyn a digynsail i fynediad i dreftadaeth".
Fe wnaeth Siân Gwenllian AS, Liz Saville Roberts AS, a Rhun ap Iorwerth AS gyfarfod â'r Athro Burke yn ddiweddar i fynegi eu "pryderon difrifol".
Mae swyddogion y brifysgol bellach wedi cadarnhau bod y cynnig i dorri swyddi tri aelod o staff yr archifdy "yn cael ei adolygu".
'Cam i'r cyfeiriad cywir'
Dywedodd AS Arfon, Siân Gwenllian ei bod yn "falch" bod y brifysgol wedi ymateb i'w pryderon.
"Mae aelodau o staff a myfyrwyr wedi dod ata i gyda phryderon am wahanol agweddau o’r cynigion a rwyf wedi llwyddo i’w cyfleu’n uniongyrchol i’r is-ganghellor ac uwch gynrychiolwyr," meddai.
"Rwy’n falch eu bod wedi gwrando ar gryfder y teimlad ac rŵan yn ailystyried y toriadau i’r archifdy."
Ychwanegodd: "Byddwn rŵan yn parhau i gyflwyno achos dros atal diswyddiadau gorfodol ac i’r cymorth yn ystod y flwyddyn gan Lywodraeth Cymru gael ei ddefnyddio i leihau colledion swyddi.
"Byddwn yn parhau i gyflwyno’r achos i’r llywodraeth gamu i mewn gyda mwy o gefnogaeth."
Dywedodd AS Dwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts bod archifau Bangor o "arwyddocâd cenedlaethol".
"Mae sicrhau mynediad cyhoeddus parhaus i’r adnodd hanesyddol hollbwysig hwn yn hanfodol ar gyfer ein dealltwriaeth o hanes, hunaniaeth a diwylliant Cymru, felly rwy’n croesawu penderfyniad y brifysgol i oedi ac ailystyried," meddai.
Dywedodd AS Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth bod y penderfyniad yn "gam i’r cyfeiriad cywir" ond y bydd yn "parhau i fonitro’r sefyllfa’n agos".
"Mae Prifysgol Bangor yn chwarae rhan ganolog yn ein bywyd cenedlaethol," meddai.
"Mae'n rhaid iddi gael ei chefnogi i ffynnu, nid ei chyfyngu gan benderfyniadau tymor byr."
Mae'r tri chynrychiolydd Plaid Cymru wedi galw eto ar Lywodraeth Cymru i gynyddu cefnogaeth i’r sector addysg uwch yng Nghymru.