Chwilio o'r newydd am Madeleine McCann ym Mhortiwgal
Mae'r ymdrechion diweddaraf i geisio dod o hyd i Madeleine McCann wedi dechrau ym Mhortiwgal, ar ôl i swyddogion ymgynnull mewn ardal wledig, rai milltiroedd o'r ganolfan wyliau lle diflannodd y ferch fach dair oed yn 2007.
Roedd Madeleine yn aros gyda'i theulu mewn llety gwyliau yn Praia da Luz. Fe aeth ei rhieni allan i gael swper a'i gadael yn cysgu yn ei hystafell gyda'i brawd a chwaer sy'n efeilliaid.
Doedd hi ddim yno pan ddychwelodd ei rhieni, ac mae'r hyn ddigwyddodd iddi yn parhau yn ddirgelwch, 18 mlynedd yn ddiweddarach.
Mae cerbydau'r heddlu wedi eu gweld fore Mawrth tua 3.5 milltir o Praia da Luz, yn ardal Atalaia
Yn ôl y BBC, mae pedair fan yn cludo plismyn o'r Almaen wedi eu gweld yn gyrru ar ffordd sy'n arwain at y môr. Roedd heddlu Portiwgal a brigad dân yno hefyd.
Dyw newyddiadurwyr ddim yn cael mynd yn agos at y safle, sydd ar dir preifat. Ond mae criwiau newyddion o sawl gwlad wedi teithio i'r ardal.
Mae plismyn o Bortiwgal yn goruchwylio lôn gul sy'n arwain i mewn i gaeau, clwstwr o dai a gwinllan.
'Penderfynol'
Yr heddlu yn Yr Almaen sydd wedi cyflwyno'r cais i chwilio amdani. Mae'r prif berson o dan amheuaeth Christian Brueckner, o dan glo yn Yr Almaen am dreisio dynes 72 oed yn Praia da Luz yn 2005.
Mae disgwyl iddo gael ei ryddhau o garchar ym mis Medi, os na fydd rhagor o gyhuddiadau yn ei erbyn.
Mae Brueckner wedi gwrthod ateb unrhyw gwestiynau am Madeleine McCann wedi iddo drafod gyda'i gyfreithwyr.
Fis Hydref y llynedd, cafodd Brueckner ei ddyfarnu'n ddieuog mewn llys yn Yr Almaen o droseddau rhyw honedig ym Mhortiwgal rhwng 2000 a 2017.
Mae disgwyl i 30 o blismyn o'r Almaen, yn cynnwys arbenigwyr fforensig fod yn rhan o'r chwilio ddydd Mawrth, ac mae swyddogion o Bortiwgal hefyd yn rhan o'r ymgyrch.
Mae digwyl i'r chwilio barhau tan ddydd Gwener.
Dywedodd Heddlu'r Met eu bod yn ymwybodol o'r datblygiadau diweddaraf, ond na fydd plismyn Prydeinig yn bresennol yno.
Yn 2023, bu ymgyrch chwilio debyg mewn ardaloedd gwledig ger cronfa ddŵr Barragem do Arade, 30 milltir o Praia da Luz.
Roedd Brueckner wedi treulio cyfnodau yn yr ardal honno rhwng 2000 a 2017, ac roedd ganddo luniau a deunydd fideo o'i hun ger y gronfa.
Cafodd y man hwnnw ei archwilio yn 2008 hefyd.
Mae teulu Madeleine McCann yn dod o Rothley yn Sir Gaerlŷr, a'r mis diwethaf fe wnaethon nhw nodi 18 mlynedd ers ei diflaniad, gan fynnu eu bod yn benderfynol o barhau i chwilio amdani.
Mewn datganiad, dywedodd ei rhieni, Kate a Gerry McCann a'r teulu: “Mae'r blynyddoedd yn gwibio, ac er nad oes gennym unrhyw newyddion arwyddocaol i'w rannu, rydym yn parhau'n benderfynol o ddod o hyd iddi.”