Newyddion S4C

Prif swyddogion yn galw am newidiadau ‘radical’ i strwythur plismona Cymru a Lloegr

29/05/2025
Pencadlyd Heddlu'r Gogledd

Mae penaethiaid heddlu Cymru a Lloegr yn galw am newidiadau radical i strwythur plismona’r DU, gan gyfyngu ar heddluoedd mawr, oherwydd prinder ariannol ac anawsterau wrth ddelio â thwyll a diweddaru technoleg.

Mae’r strwythur presennol o 43 o heddluoedd daearyddol yn dyddio yn ôl i’r 1960au, ac mae pryderon wedi bod ers tro nad yw’r strwythur yn un addas bellach.

Galwodd penaethiaid yr heddlu am ailgynllunio strwythur plismona yng Nghymru a Lloegr wrth i Gyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu (NPCC) gyhoeddi strategaeth data'r heddlu ar gyfer 2025 i 2030 ddydd Iau.

Dywedodd cadeirydd yr NPCC, Gavin Stephens, fod angen “heddluoedd cryf a galluog’ i allu defnyddio technoleg.

Ychwanegodd ei fod yn bwysig iddyn nhw allu “ymateb i ystod o fygythiadau a allai ddod i’r amlwg yn eu hardal leol a bod yn wydn i’r rheini.”

“Ar hyn o bryd, nid yw’r system yn wydn, felly byddwn yn dadlau’n bendant dros heddluoedd mwy a galluog dan arweiniad canolfan genedlaethol gryfach,” meddai.

Dywedodd ei fod yn “gwbl annerbyniol” i ddioddefwyr trosedd o un ardal gael gwell siawns o gael eu troseddwr o flaen y llys, dim ond oherwydd bod gan heddlu’r ardal hwnnw fwy o dechnoleg.

“Mae angen system arnom lle gallwn ni esblygu a rhoi datblygiadau digidol, sy’n symud yn gyflym, eu rhoi ar waith ar raddfa fawr,” meddai.

'Ar ei hôl hi'

Daw’r sylwadau hyn ar ôl i adroddiad gan Think Tank ganfod fod dioddefwyr twyll yn cael eu siomi oherwydd y strwythur hen ffasiwn o'r 1960au.

Fe wnaeth ymchwil pellach ganfod nad oedd gan dri o heddluoedd yng Nghymru a Lloegr unrhyw swyddogion wedi’u neilltuo i ymchwilio i dwyll.

Mae'r strategaeth ddigidol yn amcangyfrif bod modd arbed 15 miliwn awr o amser yr heddlu pe bai'r Llywodraeth yn rhoi £220 miliwn i heddluoedd i'w wario ar dechnoleg dros y tair blynedd nesaf.

Dywedodd yr NPCC fod prosiectau sydd eisoes wedi'u treialu wedi arbed 347,656 o oriau gweithlu ac £8.2 miliwn y flwyddyn.

Ychwanegodd y gallent arbed 15 miliwn awr a £370 miliwn y flwyddyn pe baent yn cael eu cyflwyno'n genedlaethol.

Dywedodd Mr Stephens: “Heb fuddsoddiad, byddwn yn disgyn ar ei hôl hi yn hytrach na dod yn fwy cynhyrchiol.

“Bydd haneru trais yn erbyn menywod a merched a throseddau cyllyll yn llawer anoddach i'w cyrraedd.”

Mae'r prosiectau sy'n cael eu treialu ar hyn o bryd yn cynnwys adnabyddiaeth wynebau byw, system lle mae dioddefwyr cam-drin domestig yn cael eu cysylltu â swyddog trwy alwad fideo, gan leihau'r amser ymateb cyfartalog o 32 awr i dair munud, a mwy o ddefnydd o dronau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.