Y Llais yn dychwelyd i S4C am ail gyfres
Y Llais yn dychwelyd i S4C am ail gyfres
Mae S4C wedi cyhoeddi bydd Y Llais yn dychwelyd am ail gyfres yn 2026.
Cyhoeddodd y sianel y newyddion ar faes Eisteddfod yr Urdd ym Mharc Margam ddydd Mercher.
Rose Datta oedd enillydd y gyfres gyntaf eleni.
Syr Bryn Terfel, Yws Gwynedd, Aleighcia Scott a Bronwen Lewis oedd yr hyfforddwyr hefyd.
Fersiwn Gymraeg o'r gyfres deledu fyd-eang boblogaidd, a fformat ITV Studios, The Voice yw Y Llais, sy’n cael ei gynhyrchu gan Boom Cymru, rhan o ITV Studios.
'Talent'
Fe wnaeth y gyfres gyntaf o Y Llais "roi llwyfan i lwyth o dalent newydd o bob ardal o Gymru", meddai S4C.
Ychwanegodd y sianel bod clipiau o’r gyfres yn mynd yn feiral ar TikTok, gyda chynnwys cyfryngau cymdeithasol S4C ac Y Llais yn cael 4.7 miliwn o sesiynau gwylio.
Wedi'r cyhoeddiad dywedodd Llion Iwan, Prif Swyddog Cynnwys S4C bod y gyfres yn arddangos talent "o bob cwr o Gymru."
“Mae'r fformat ‘amser brig’ yma yn cynnig adloniant hwyliog a chyffrous i'r teulu cyfan, ac rydym wrth ein bodd bod gwylwyr yng Nghymru a thu hwnt, wedi mwynhau cymaint," meddai.
“Roedd talent o bob cwr o Gymru yn y gyfres gyntaf, a phwy a ŵyr pa dalent bydd y gyfres yn datgelu y tro yma.”
Dywedodd S4C byddai mwy o wybodaeth yn cael ei ryddhau am y gyfres yn fuan.
Gall unrhyw un sydd eisiau cystadlu yn y Y Llais eleni gwneud hynny trwy lenwi’r ffurflen gais yma: http://www.s4c.cymru/yllais