Newyddion S4C

Abertawe: Apêl o'r newydd wedi i gorff dyn gael ei ddarganfod yn 2023

27/05/2025
Heddlu

Mae Heddlu'r De wedi cyhoeddi apêl o'r newydd am wybodaeth am gorff dyn gafodd ei olchi i'r lan yn ardal Abertawe ar ddiwedd 2023.

Cafwyd hyd i gorff y dyn ar 16 Rhagfyr 2023, yn dilyn adroddiad bod corff wedi’i olchi i’r lan yn ardal y Gŵyr, rhwng Bae Slade a Pharc Hamdden Green Meadow. 

Nid yw swyddogion yr heddlu wedi llwyddo i adnabod y dyn ers hynny.

Roedd yn gwisgo belt lledr du a phâr o sanau du gydag esgidiau cerdded Magnum maint 9. 

Nid oedd unrhyw wybodaeth bellach arno allai gynorthwyo'r heddlu i'w adnabod. 

Mae Heddlu De Cymru wedi gweithio gyda heddluoedd eraill o fewn a thu hwnt, a hyd yn hyn nid yw technoleg DNA wedi cynnig unrhyw atebion i'r dirgelwch.

Mae’r corff wedi’i ddisgrifio fel dyn gwyn, chwe throedfedd o daldra a gyda lled ysgwydd o 20 modfedd. 

Mae'r heddlu'n apelio am unrhyw wybodaeth newydd mewn perthynas â hunaniaeth y dyn hwn. 

Gall unrhyw un sydd gan wybodaeth gysylltu â Heddlu De Cymru ar 101 gan ddefnyddio'r cyfeirnod 2300426894.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.