Tariffau Trump wedi eu rhwystro gan lys yn America
Mae un o lysoedd masnach ffederal yr Unol Daleithiau wedi rhwystro tariffau Donald Trump gan ddweud nad oedd ganddo’r “awdurdod” i’w gosod nhw yn y lle cyntaf.
Penderfynodd y Llys Masnach Ryngwladol nad oedd gan yr Arlywydd yr awdurdod i osod tariffau ar bron bob gwlad dan gyfraith oedd i’w defnyddio mewn argyfyngau yn unig.
Mae gweinyddiaeth Donald Trump wedi apelio yn erbyn y penderfyniad gan ddweud nad “lle barnwyr sydd heb eu hethol yw penderfynu sut i fynd i’r afael ag argyfwng cenedlaethol”.
Mae'r llys wedi rhoi 10 diwrnod i'r Tŷ Gwyn gwblhau'r broses fiwrocrataidd o atal y tariffau.
Ar un cyfnod roedd Donald Trump wedi gosod tariffau o 145% ar y rhan fwyaf o fewnforion Tsieineaidd.
Mae’r ddwy wlad bellach wedi gostwng y tariffau, ond mae Doanld Trump wedi dweud ei fod eisiau gosod tariffau 50% ar yr Undeb Ewropeaidd.
Yn sgil penderfyniad y llys fe gyhoeddodd Donald Trump neges ar y cyfryngau cymdeithasol yn dweud ei fod “ar genhadaeth gan Dduw ac ni all unrhyw un atal yr hyn sydd i ddod”.
Yn y cyfamser mae cynrychiolwyr y Blaid Ddemocrataidd wedi dathlu’r penderfyniad.
“Rydyn ni wedi dadlau o’r dechrau fod honiad Donald Trump y gallai osod trethi uchel iawn ar nwyddau yn anghyfansoddiadol,” meddai Ron Wyden, seneddwr o Oregon.