Newyddion S4C

Bwrdd iechyd yn ystyried ad-drefnu naw o wasanaethau 'bregus'

Bwrdd Iechyd Hywel Dda GIG NHS

Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn ystyried ad-drefnu naw o'u gwasanaethau sydd yn "fregus ac angen newid."

Y gwasanaethau sydd angen gwaith brys ydy gofal critigol, llawfeddygaeth gyffredinol frys, strôc, endosgopi, radioleg, dermatoleg, gofal llygaid, orthopaedeg, ac wroleg, medden nhw.

Fe gafodd y gwasanaethau eu dewis gan fod "risgiau nad ydyn nhw'n gallu parhau i gynnig gwasanaeth neu ofal diogel, o ansawdd uchel mewn modd amserol," meddai'r bwrdd iechyd.

Mae disgwyl i'r bwrdd iechyd gymeradwyo lansiad ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynlluniau mewn cyfarfod ddydd Iau.

Yn rhan o'u cynllun 'Canolbarth a Gorllewin Cymru Iachach' mae'r bwrdd iechyd yn anelu i fynd i'r afael â chyflwr bregus y gwasanaethau, gwella safonau a gostwng amseroedd aros.

Mae nifer o opsiynau yn cael eu cyflwyno i'r cyhoedd, ond nid oes un yn cael ei ffafrio ar hyn o bryd, meddai'r bwrdd iechyd.

Dan un o'r cynlluniau byddai nifer yr unedau strôc yn haneru, a gwasanaethau wroleg a gofal llygaid yn cael eu canoli.

'Siapio dyfodol'

Pedwar prif ysbyty sydd o fewn ardal Bwrdd Iechyd Hywel Dda, sef Ysbyty'r Tywysog Philip yn Llanelli, Glangwili yng Nghaerfyrddin, Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd a Bronglais yn Aberystwyth.

Dywedodd y Cyfarwyddwr Meddygol Dros Dro'r bwrdd iechyd Mr Mark Henwood ei fod eisiau i "bawb gael rhoi eu barn."

“Rydym am glywed eich barn ar ba opsiynau sy’n mynd i’r afael â’r heriau orau, gwella safonau, a lleihau amseroedd aros," meddai.

"Rydym hefyd yn awyddus i ddeall unrhyw bryderon, effeithiau, neu syniadau amgen sydd gennych – gan gynnwys eich barn ar rôl ein prif ysbytai yn y dyfodol.

“Wrth i ni ystyried opsiynau a fydd yn siapio dyfodol naw maes gwasanaeth clinigol, rwy’n annog pawb i fanteisio ar y cyfle hwn i rannu eu barn, i’n helpu i ddarparu’r gwasanaethau a fydd o gymorth i'ch anghenion."

Maen nhw'n gofyn am farn y cyhoedd yn ystod y cyfnod ymgynghori rhwng 29 Mai a 31 Awst.

Bydd canlyniad yr ymgynghoriad yn cael ei ystyried gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda ym mis Tachwedd.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.