Newyddion S4C

Canolfan i fenywod sydd wedi troseddu angen ei 'blaenoriaethu' medd AS

27/05/2025
Trehafod, canolfan i fenywod sydd wedi troseddu

Fe ddylid blaenoriaethu a bwrw ymlaen â chanolfan breswyl ar gyfer menywod sydd wedi troseddu medd Aelod Seneddol.

Mae Ruth Jones, cadeirydd Pwyllgor Materion Cymreig wedi galw ar Lywodraeth y DU i fwrw ymlaen gyda’r cynlluniau i adeiladu canolfan o’r fath yn Y Cocyd. 

Mae’r pwyllgor wrthi yn edrych ar sefyllfa carchardai a’r gwasanaeth prawf yng Nghymru. 

Dywedodd Ms Jones mewn llythyr at Shabana Mahmood sef yr Ysgrifennydd Cyfiawnder bod yna “ddiffyg carchardai i fenywod yng Nghymru. Mae hyn yn golygu fod rhai i fenywod o Gymru sydd yn troseddu yn aml, mewn carchardai sydd bellter sylweddol o’u teuluoedd, ffrindiau a’r gwasanaethau cymorth, gysylltu ag ymwneud a nhw pan fyddant yn dychwelyd i’w cymunedau.” 

Y cefndir 

Roedd y Llywodraeth Geidwadol flaenorol o blaid y cynllun.

Y bwriad oedd y byddai canolfan breswyl ar gael yn adeilad Trehafod sydd o fewn tir Ysbyty Cefn Coed. Byddai’r ganolfan yn cynnig cymorth i 12 o fenywod oedd wedi cyflawni troseddau llai difrifol. Y gwasanaeth carchardai a’r gwasanaeth prawf fyddai yn staffio’r lle. 

Mae’r rhai sy’n cefnogi’r cynllun yn dweud bod canolfannau o’r fath yn ffordd fwy effeithiol a rhatach o leihau ail droseddu na chyfnodau byr mewn carchardai. 

Ond fe gafodd y cynlluniau i droi ac ehangu adeilad Trehafod ei wrthwynebu gan rhai. Cafodd 215 o lythyron yn gwrthwynebu eu hanfon ac fe benderfynodd pwyllgor cynllunio’r cyngor yn 2022 i wrthod y cais. 

Roedd hyn yn mynd yn groes i’r cyngor gan swyddogion y pwyllgor.

Fe lwyddodd y Gwasanaeth Cyfiawnder i apelio’r penderfyniad a dweud eu bod yn bwriadu agor y ganolfan yn 2024.Ond does dim wedi digwydd ers hynny.

'Rol allweddol'

Wythnos diwethaf fe gyhoeddwyd adolygiad annibynol gafodd ei gomisiynu gan Lywodraeth San Steffan. Roedd yr adolygiad yn dweud bod angen buddsoddiad hir dymor ar gyfer canolfanau menywod. Mae’r canolfanau yma yn chwarae “rol allweddol” mewn cynnig cymorth ymarferol ac emosiynol meddai’r adolygiad. 

Mae’r AS Ruth Jones ar gyfer Gorllewin Casnewydd ac Islwyn yn sôn am yr adolygiad yma yn ei llythyr ac yn galw ar y llywodraeth i dderbyn yr argyhmellion a “blaenoriaethu cael y safle yn Abertawe yn weithredol cyn gynted ag sy’n bosib”. 

Dywedodd y Gwasanaeth Cyfiawnder bod Ms Mahmood yn croesawu canfyddiadau’r adolygiad a’u bod wedi sefydlu bwrdd i leihau'r nifer o fenywod sydd yn mynd i garchardai.

Maent hefyd wedi dweud eu bod yn ystyried y camau nesaf mewn cysylltiad â’r cynlluniau i greu canolfan breswyl i fenywod yn Y Cocyd. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.