Gwahardd lorïau trwm rhag croesi Pont Hafren
Mae lorïau trwm wedi'u gwahardd rhag croesi'r hen Bont Hafren am y tro.
O ddydd Mawrth, mae lorïau sy'n pwyso dros 7.5 tunnell yn cael eu cyfeirio at Bont Tywysog Cymru.
Daw'r gwaharddiad wedi i arolygon ddangos bod y ceblau ar Bont Hafren wedi dirywio.
Pont Hafren yw'r bont wreiddiol dros Afon Hafren a gafodd ei hagor gan y Frenhines Elizabeth II yn 1966.
Dywedodd National Highways, sy'n gyfrifol am y bont, mai "diogelwch teithwyr" yw'r flaenoriaeth.
"Mae arolygon wedi dangos fod ceblau'r brif bont wedi dirywio a gwanhau," meddai llefarydd.
"Mae angen i ni leihau'r llwyth ar y ceblau hyn i gadw'r bont ar agor i'r rhan fwyaf o draffig.
"Am y tro, mae hyn yn golygu cael gwared ar y cerbydau trymaf."
Bydd y gwaharddiad yn ei le am gyfnod o 12 i 18 mis.