Pwysigrwydd targed 1m o siaradwyr Cymraeg yn 'gwbl glir' i Jeremy Miles
Mae Jeremy Miles AS wedi disgrifio’r targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn un “hollbwysig” wedi i arweinydd plaid Reform UK wfftio'r syniad o dargedau yn ddiweddar.
Ganol y mis, dywedodd Nigel Farage fod targedau yn 'ddibwys' wrth iddo gael ei holi ar raglen Sharp End ITV Cymru.
Nododd hynny wrth geisio ateb cwestiwn a fyddai'n cael gwared â'r targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg pe bai ei blaid yn llywodraethu yng Nghymru.
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/1922360889610469640
Wrth siarad â Newyddion S4C ddydd Llun, mae cyn Weinidog y Gymraeg ac Addysg Llywodraeth Cymru, Jeremy Miles wedi amddiffyn pwrpas targed o’r fath.
“Mae’r targed o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn un pwysig,” meddai Mr Miles sy'n Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
“Mae’n golygu bod sefydliadau, y Llywodraeth, yr holl system os hoffech chi yn gweithio tuag at y nod o gynyddu’r defnydd o Gymraeg.
“Rwy’n gwbl glir bod cynyddu defnydd y Gymraeg yn hollbwysig a’r cyfle y’n ni’n cynnig i bobl i ddysgu Cymraeg yn yr ysgol ac fel oedolion yn bwysig iawn i bobl allu ddysgu’r Gymraeg.”
Dywedodd bod y targed hefyd yn sicrhau y gall pobl “gyfrannu at ddiwylliant yr iaith Gymraeg.”
“Mae’n bwysig bod pob plentyn yng Nghymru yn cael mynediad hafal at hynny, a’r cyfle ar gael i oedolion hefyd,” meddai.
'Iaith i bawb'
Wrth siarad ar faes Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr 2025, ac yntau'n Llywydd yr Ŵyl, pwysleisiodd Mr Miles mai “iaith i bawb” yw’r Gymraeg.
Mae’r Eisteddfod ym Mharc Margam wedi torri tir newydd eleni gyda’r nifer fwyaf o ddysgwyr Cymraeg wedi cofrestru i gystadlu – cynnydd o 42% o gymharu â’r llynedd.
Mae 37 o ysgolion newydd o ranbarth Gorllewin Morgannwg, lle mae'r Eisteddfod yn cael ei chynnal, yn cystadlu am y tro cyntaf eleni, ac mae’r Urdd wedi ychwanegu mwy o gystadlaethau i ddysgwyr i’w hamserlen.
Dywedodd Jeremy Miles: “Pan o’n i’n Weinidog y Gymraeg yn y Llywodraeth o’n i’n sôn bod y Gymraeg yn perthyn i bawb, p’un ai bod chi’n siaradwr hyderus neu jyst yn defnyddio ambell air bob hyn a hyn.
“Ond mae hynny’n golygu bod e’n perthyn i bob cymuned yng Nghymru hefyd felly mae gwreiddiau’r Gymraeg yn yr ardal yn ddwfn.
“Falle bod ni ddim yn clywed y Gymraeg mor aml ar y stryd fawr a fyddwn ni degawdau yn ôl ond mae’r ffaith bod cynifer o ddysgwyr wedi cofrestru am y tro cynta’ a’r nifer o ysgolion dwyieithog sydd wedi cymryd rhan a fydd yn cymryd rhan - mae’r brwdfrydedd yn glir, mae’r cyffro yn glir ac mae’r croeso i’r Urdd yn glir yma hefyd.”