Newyddion S4C

Anthem newydd i gefnogi menywod Cymru yn Ewro 2025

27/05/2025

Anthem newydd i gefnogi menywod Cymru yn Ewro 2025

Mae Caryl Parry Jones wrthi'n cyfansoddi anthem newydd i gefnogi tîm pêl-droed menywod Cymru ym Mhencampwriaeth Ewro 2025.  

Bydd holl ddisgyblion cynradd Cymru yn cael cyfle i'w chyd-ganu gydag Eden, Aleighcia Scott a Rose Datta. 

Dyma un ymhlith chwe phrosiect newydd gan Urdd Gobaith Cymru a fydd yn dathlu a chefnogi ymdrechion y tîm pêl-droed yn y Swistir fis Gorffennaf.

Un o’r prosiectau cyntaf yw Jambori’r Ewros sef digwyddiad rhithiol cenedlaethol mewn partneriaeth â Chymdeithas Bêl-droed Cymru, S4C, Boom Plant a BBC Cymru Wales.

Bydd y jambori yn rhoi cyfle i holl ddisgyblion cynradd Cymru ddod ynghyd i ganu a dathlu camp y menywod wrth gyrraedd Euro 2025. 

Cafodd jambori tebyg ei gynnal yn 2022 pan ddaeth dros 250,000 o blant ynghyd i ganu, dathlu a chefnogi tîm dynion Cymru cyn iddyn nhw deithio i Gwpan Y Byd yn Qatar.  

Yn rhan o'r Jambori, mae Caryl Parry Jones wedi cael gwahoddiad i gyfansoddi anthem newydd sbon i gefnogi’r tîm pêl-droed cenedlaethol.

Mae’r mudiad wedi derbyn nawdd drwy gronfa Euro 2025 Llywodraeth Cymru i gynnal y prosiectau sy’n cyd-fynd â'r ymgyrch #FelMerch yr Urdd.

Yn ôl yr Urdd, mae'r ymgyrch yn ysbrydoli, cefnogi a grymuso merched a menywod ifanc i gadw’n heini a chwalu rhwystrau sy’n eu hatal rhag cymryd rhan mewn chwaraeon.

Yn ogystal â'r jambori, bydd digwyddiad Gwerin #FelMerch, mewn partneriaeth â phrosiect TwmpDaith, yn rhoi cyfle i griw o ferched ifanc yr Urdd i deithio i’r Swistir i arddangos talent gwerin gyfoes o Gymru. 

Mae Gŵyl Chwaraeon Ewros eisoes wedi ei chynnal yn Aberystwyth, a bydd llysgenhadon yr ymgyrch yn ymweld â'r Swistir.

Yn yr hydref, bydd Cynhadledd Undydd #FelMerch yn cloi’r holl weithgareddau. 

'Cymry balch'

Dywedodd Siân Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd: "Wrth i garfan menywod Cymru gystadlu ym Mhencampwriaeth EURO 2025 am y tro cyntaf erioed, daw cyfle diguro i ni fel mudiad ieuenctid mwyaf Cymru i blethu hyn oll â’n hymgyrch #FelMerch. 

"Rydym yn edrych ymlaen at wireddu’r prosiectau hyn fydd yn tanio diddordeb ac yn ysbrydoli plant a phobl ifanc Cymru gydol yr ymgyrch, gan roi cyfle iddynt fod yn Gymry balch wrth gyd-ganu a chefnogi’r tîm, yn ogystal â chymryd rhan mewn digwyddiadau chwaraeon a chelfyddydau arbennig yma yng Nghymru ac yn y Swistir."

Dywedodd y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon, Jack Sargeant: “Bydd ein cronfa gwerth £1 miliwn yn defnyddio arbenigedd amhrisiadwy amrywiaeth o sefydliadau fel yr Urdd i wella ein presenoldeb yn y twrnamaint ac adeiladu gwaddol a fydd o fudd i gymunedau y tu hwnt i’r chwiban olaf.

“Bydd chwe phrosiect newydd yr Urdd - nid yn unig yn hybu cyfranogiad mewn chwaraeon ar draws ein cymunedau ond byddant hefyd yn arddangos Cymru a’n diwylliant ar y llwyfan rhyngwladol.”

Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC): “Mae CBDC yn hynod gyffrous ac yn falch iawn i weld cymaint o sefydliadau a mentrau’n dathlu ymddangosiad cyntaf Cymru mewn pencampwriaeth ryngwladol pêl-droed yng ngêm y menywod.

“Mae prosiectau’r Urdd, gyda chefnogaeth cronfa EURO 2025 Llywodraeth Cymru, yn enghraifft bwerus o sut y gall pêl-droed, creadigrwydd a diwylliant ddod ynghyd i ysbrydoli cenedl."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.