Newyddion S4C

Gwerthu canolfan siopa ynghanol dinas Bangor drwy ocsiwn

26/05/2025
Canolfan Menai, Bangor

Bydd canolfan siopa ynghanol dinas Bangor yn cael ei gwerthu drwy ocsiwn.

Mae cwmni Savills yn hysbysebu Canolfan Menai ac yn gofyn i brynwyr wneud cynnig amdani cyn hanner dydd ar 10 Mehefin 2025.

Mae disgwyl iddi werthu am tua £4.2m meddai Savills. Mae'n bosib y bydd y ganolfan yn cael ei gwerthu cyn ocsiwn fyw ar 17 Mehefin yn ddibynnol ar y cynigion sy'n dod i law.

Mae’n cynnwys 19 o unedau siopa a gofod o 64,321 o droedfeddi sgwâr. Mae’r siopau presennol ar y safle yn talu £508,000 mewn rhent, meddai'r arwerthwr. 

Nid yw’r gwerthiant yn cynnwys cyn siopau Debenhams a Marks & Spencer.

Mae’r siopau sy’n rhan o’r ganolfan ar hyn o bryd yn cynnwys JD Sport, Cafe Nero, Hays Travel, 3 mobile, Superdrug a Greggs.

Fe gafodd y ganolfan ei phrynu gan Bearmont Capital - cwmni Rob Lloyd - yn 2023.

Mae safle Debenhams yn cael ei droi yn ganolfan iechyd mewn partneriaeth â Chyngor Gwynedd a Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, gyda chefnogaeth arian Llywodraeth Cymru.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.