Newyddion S4C

Rhybuddion ar ôl achub pobl oddi ar arfordir Abersoch a Bae Colwyn

Cwch Bae Colwyn

Mae’r Bad Achub Brenhinol wedi rhybuddio pobl i sicrhau fod ganddyn nhw fodd o alw am help ar ôl gorfod achub pobl a oedd yn arnofio yn y môr oddi ar arfordir Abersoch a Bae Colwyn dros y dyddiau diwethaf.

Dywedodd llefarydd ar ran RNLI Abersoch eu bod nhw wedi derbyn dwy alwad 999 ar wahân ddydd Iau gael aelodau o’r cyhoedd oedd wedi gweld dyn oedd mewn trafferthion odd ar arfordir Abersoch.

Roedd y dyn ar fwrdd padlo a oedd wedi bod drifftio ers 30 munud ac fe gafodd ei achub bum munud wedi i’r bad achub ddechrau ei hymgyrch am 17.45.

Dywedodd Elissa Williams, pennaeth gwirfoddol RNLI Abersoch: ‘Pryd bynnag y byddwch chi’n mynd allan ar y dŵr, gwnewch yn siŵr bod gennych chi ddull addas o alw am gymorth.

“A gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gwisgo dillad addas ar gyfer yr amodau, gan gynnwys rhywbeth i’ch cadw chi’n arnofio ar y dŵr.

“Trïwch osgoi'r gwyntoedd sy’n eich chwythu o’r lan am eu bod nhw’n gallu eich blino yn gyflym.”

Image
RNLI Abersoch
RNLI Abersoch

Ddydd Sul fe gafodd RNLI Caergybi alwad yn dweud bod pobl mewn dingi wedi cael eu sgubo oddi ar yr arfordir ger Bae Colwyn.

Gyda chymorth awyren o Wasanaeth Awyr Cenedlaethol yr Heddlu, llwyddodd Bad Achub y Rhyl i ddod o hyd iddyn nhw 2.7 milltir i'r gogledd o Landdulas, tua phedair milltir o'r man lle y cychwynnodd eu taith.

Dywedodd Paul Archer-Jones oedd ar ddyletswydd ar y pryd: "Gallai hwn fod wedi bod yn ddigwyddiad eithaf difrifol.

“Creodd y gwyntoedd cryfion amodau eithaf anodd wrth i ni geisio dod o hyd i’r cwch.

“Yn ffodus, gyda chymorth yr holl dimau dan sylw, llwyddom i ddod â'r bobl i'r lan yn ddiogel. 

“Rydym bob amser yn argymell, os ydych chi'n mynd i'r môr, eich bod chi'n defnyddio dull o alw am gymorth, radio VHF, yn gwisgo siaced achub neu gymorth i arnofio, ac yn gwirio rhagolygon y tywydd cyn mynd allan.”

Image
RNLI Rhyl
Llun gan RNLI/Callum Robinson

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.