‘Torcalonus’: Teyrngedau i’r cyd-yrrwr rali Dai Roberts
Mae teyrngedau wedi eu rhoi i Dai Roberts, y cyd-yrrwr rali a fu farw yn Yr Alban ddydd Sadwrn.
Mewn datganiad ddydd Sadwrn dywedodd Motorsport UK fod Dai Roberts, 39 oed, o Gaerfyrddin wedi colli ei fywyd mewn damwain yn ystod Rali Jim Clark, yn Sir Berwick.
Cafodd y gyrrwr, James Williams, 27 oed, o Gastell Newydd Emlyn, ei gludo i’r ysbyty yng Nghaeredin gydag anafiadau difrifol ond nid rhai sy’n peryglu ei fywyd.
Cafodd y rali ei chanslo yn dilyn y digwyddiad, gyda Motorsport UK yn cadarnhau y byddai “ymchwiliad llawn i amgylchiadau’r digwyddiad” yn cael ei gynnal.
Cafodd Mr Roberts ei anafu mewn rali yng Ngogledd Iwerddon yn 2014 a bu farw ei frawd, Gareth, mewn rali ar ynys Sisili yn 2012.
Dywedodd datganiad gan dîm ralio James Williams fod “y gymuned foduro wedi ei dristau’n fawr iawn i glywed am farwolaeth ein hannwyl Dai Roberts”.
“Mae ein meddyliau a’n gweddïau gyda theulu Roberts yn y cyfnod anodd hwn.”
Teyrngedau
Wrth roi teyrnged, dywedodd y gyrrwr rali o Iwerddon, Keith Cronin: “Hoffwn fynegi fy nghydymdeimlad diffuant â theulu Roberts ar eu colled anfesuradwy.
“Mae ein meddyliau hefyd gyda James Williams. Rydym yn dymuno adferiad buan a llwyr iddo.”
Dywedodd Aelod Seneddol yn ardal y rali, John Lamont: “Mae hyn yn newyddion ofnadwy o drist.
“Mae fy meddyliau a'm gweddïau gyda Dai Roberts a'i deulu yn ystod yr amser anodd hwn.”
Mewn datganiad, dywedodd Clwb Pêl-Droed Iau Bancffosfelen: “Rydym fel clwb yn drist iawn i gyhoeddi marwolaeth dorcalonnus Dai Roberts, un o’r hyfforddwyr dan 12.
“Roedd Dai yn chwarae rhan ganolog yn y clwb ac yn rhoi pob ymdrech ac egni i bêl droed yn y gymuned.
“Mae’n meddyliau i gyd gyda Louise, Jac, Mia, Cerys a’r teulu i gyd. Cwsg mewn hedd Dai.”
Inline Tweet: https://twitter.com/RalioS4C/status/1926321738607907133
Dywedodd trefnwyr Rali Ceredigion: “Fel gweddill y gymuned moduro, roeddem yn hynod o drist i glywed y newyddion am Dai.
"Hoffwn hefyd anfon ein dymuniadau gorau at y gyrrwr James Williams, a dymuno gwellhad llawn iddo.”
Yn sgil y digwyddiad, dywedodd Clwb Moduro Llandysul y byddai’r rali Classic Tracks oedd wedi’i drefnu ddydd Sul yn cael ei ohirio.
“Mae hyn er mwyn dangos parch ac i alluogi ffrindiau niferus Dai i brosesu’r newyddion erchyll yma. Cwsg mewn hedd Dai.”