Newyddion S4C

Dyn o Wynedd yn glanio adref ar ôl ‘hunllef’ mewn carchar yn Affrica

Paul Inch

‘Roedd yn hunllef na fyddwn i fyth wedi gallu dychmygu.’ 

Mae dyn o Wynedd a dreuliodd dros dri mis yn un o garchardai mwyaf peryglus Affrica wedi glanio yn ôl yn y Deyrnas Unedig.

Am dros 100 diwrnod, fe wnaeth Paul Inch, 50 oed, o Flaenau Ffestiniog a’i gyd-weithiwr, Richard Perham, 29, o Fryste, rannu matres sengl mewn cell carchar yn Guinea yng Ngorllewin Affrica. 

Yna roedd yn rhaid iddynt aros yn y wlad am 42 ddiwrnod ychwanegol, cyn eu bod yn gallu hedfan yn ôl.

Ond am 10:30 fore Sul, fe laniodd y ddau ym maes awyr Heathrow yn Llundain.

Dywedodd Paul Inch, sydd yn dad i bump o blant ac yn aelod gwirfoddol o dîm Achub Mynydd Aberglaslyn: “Roeddwn i yn Guinea yn gwneud fy swydd, ac roedd popeth yn iawn.

“Ond fe gefais fy nghloi i ffwrdd am 100 o ddiwrnodau mewn amodau annioddefol.”

Carchar

Roedd Mr Inch a Mr Perham wedi teithio i Guinea, er mwyn cynorthwyo prosiect i adfer offer o falŵn ymchwil uchder uchel.

Roeddent yno ar ran cwmni Aerostar International, wedi i’r balŵn lanio yn Guinea. Y bwriad oedd y byddai’r swydd ddim am gymryd fwy na phedwar diwrnod.

Ond o fewn dyddiau, cafodd y ddau eu harestio a’u cyhuddo o ysbïo, annog gwrthryfela, bygwth amddiffyn cenedlaethol a thorri rheolau aerofod gan yr awdurdodau. Nid oedd unrhyw sail i’r cyhuddiadau.

Cafodd y dynion eu carcharu yng ngharchar canolog Conarky, ym mhrifddinas y wlad. Roedd y carchar yn orlawn ac yn dal 475% o capasiti’r adeilad.

Image
Richard Perham
Richard Perham

Cafodd Paul a Richard eu cloi mewn cell oedd yn orlawn ac yn boeth eithafol, gydag unigolion oedd wedi’u carcharu am droseddau treisgar. Roedd yr unig doilet yn cael ei rannu gan yr 80 o garcharorion yn y gell, oedd yr un maint â cherbyd trên.

Fe gafodd y ddau eu bygwth gyda thrais corfforol ac ymosodiadau rhyw, ac fe wnaeth carcharorion a staff fynnu arian ganddyn nhw er mwyn iddynt beidio cael eu gorfodi i symud i adran o’r carchar oedd yn fwy treisgar.

Gyda’r unig ddŵr ar gael yn hynod o fudr, fe wnaeth y ddau ddyn ddioddef o ddadhydradiad, salwch difrifol a heintiau ar eu croen tra’r oeddent yno.

Fe wnaeth y cwmni Aerostar International fynnu i’r awdurdodau fod Richard a Paul yno i wneud swydd oedd yn gyfreithlon a heddychlon. Roedd y cwmni yn credu ei fod wedi sicrhau’r trwyddedau angenrheidiol ar gyfer hediad a glaniad y balŵn, ond daeth yn amlwg yn ddiweddarach nad oedd caniatâd wedi ei rhoi.

Ar ôl bod drwy fisoedd o wrandawiadau llys ac oedi, cafodd y ddau ddyn eu rhyddhau ar fechnïaeth ar 11 Ebrill. Ond heb eu pasbortau a ddim â’r gallu i hedfan adref, roedd yn rhaid i’r ddau aros yn Conarky am 42 diwrnod ychwanegol.

‘Hunllef’

Wrth siarad ar ôl glanio yn Heathrow, dywedodd Paul Inch: “Roedd yn hunllef na fyddwn i fyth wedi gallu dychmygu.

“Yn fy ngwaith fel hyfforddwr beicio mynydd, swyddog diogelwch dŵr ac fel gwirfoddolwr yn nhîm Achub Mynydd Aberglaslyn, dw i’n deall ystyr o gyfrifoldeb,

“Roeddwn i yn Guinea yn gwneud fy swydd, ac roedd popeth yn iawn. Ond fe gefais fy nghloi i ffwrdd am 100 o ddiwrnodau mewn amodau annioddefol.”

Dywedodd Richard Perham: “Roeddwn yn ofni am ein bywydau pob dydd. Ar ôl bod yno am ddau fis, fe wnaeth Llysgennad y DU ein tywys i giatiau’r carchar, ac roeddent yn credu ein bod ni’n cael ein rhyddhau o’r diwedd.

“Ond fe wnaeth un galwad i’r swyddog erlyn newid hynny. Roedd yn rhaid i ni droi rownd a cherdded syth yn ôl i mewn am fis arall. Roedd yn ofnadwy.

Image
Liz Saville Roberts
Liz Saville Roberts AS

“Roedd hwn yn swydd pedwar diwrnod syml i fod. Ond, fe ddaeth yn 100 ddiwrnod o hunllef, ac fe wnes i fethu camau a geiriau gyntaf fy merch, cerrig filltir na allaf eu cael yn ôl.”

Mae’r ddau ddyn wedi diolch i’w Aelodau Seneddol lleol, Liz Saville Roberts a Carla Denyer, am “aros mewn cyswllt agos gyda’n teuluoedd drwy’r holl broses. Maent hefyd wedi diolch i’r Llysgenhadaeth Brydeinig a’r llysgenhadon, Daniel Shepherd, John Marshall a Mark Kelly am eu “hymrwymiad diflino.”

Dywedodd Liz Saville Roberts:  “Rwy’n hynod falch fod Paul Inch a Richard Perham yn rhydd o’r diwedd ar ôl cael eu dal yng ngharchar Conarky, Guinea, dan amodau erchyll ac yna arestiad cartref.

“Mae hyn wedi bod yn hunllef i’r ddau ddyn a’u teuluoedd a’u ffrindiau, sydd wedi bod yn llawn ffocws, yn ddyfeisgar ac yn benderfynol i sicrhau nad oedd diwrnod yn mynd heibio heb geisio sicrhau eu bod yn cael eu rhyddhau.”

Prif Lun: Paul Inch

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.