Y darlledwr Alan Yentob wedi marw yn 78 oed
Mae’r darlledwr Alan Yentob wedi marw yn 78 oed, mae ei deulu wedi cyhoeddi.
Roedd yn adnabyddus fel cyflwynydd teledu ac fel un o benaethiaid rhaglenni’r BBC.
Fe ymunodd â’r BBC yn 1968, a dros ei fywyd fe weithiodd fel rheolwr BBC One a BBC Two, cyfarwyddwr teledu, pennaeth cerddoriaeth a’r cyfryngau, yn ogystal â chyfarwyddwr drama, adloniant a rhaglenni teledu’r BBC.
Fe lansiodd CBBC a Cbeebies yn ystod ei gyfnod gyda’r gorfforaeth.
Fel cyflwynydd, fe weithiodd ar gyfres gelfyddydol, Imagine, Arena ac Omnibus, gan gyfweld â ffigyrau blaengar megis David Bowie, Charles Saatchi, Maya Angelou a Grayson Perry.
Yn 2024, fe gafodd ei anrhydeddu â CBE gan y Brenin am ei wasanaethau i’r celfyddydau a’r cyfryngau.
Dywedodd datganiad gan ei deulu fod Yentob wedi marw ddydd Sadwrn 24 Mai.
Dywedodd ei wraig, Philippa Walker: “I Jacob, Bella a minnau, roedd pob dydd gydag Alan yn addo rhywbeth annisgwyl. Roedd ein bywyd yn gyffrous, roedd e’n gyffrous.
“Roedd e’n chwilfrydig, yn ddoniol, yn niwsans, yn hwyr ac yn greadigol ym mhob cell o’i gorff.
“Ond yn fwy na hynny, roedd e’n ddyn caredig ac yn ddyn moesol iawn. Mae’n gadael ar ôl llwybr cariad milltir o led.”
Dywedodd cyfarwyddwr cyffredinol y BBC, Tim Davie: “Rydym wedi colli un o ffigyrau creadigol mawr ein hoes.
"Ond bydd ei raglenni, ei lais, a’r cenedlaethau a ysbrydolodd, yn parhau i fyw.
“Mae ein meddyliau gyda’i deulu a’i anwyliaid. Bydd colled fawr ar ôl Alan fel ffrind, cydweithiwr, ac un o’r ffigurau fwyaf blaenllaw yn stori diwylliant Prydain.”