Newyddion S4C

Dyn yn cerdded o Gaerdydd i Anfield ar gyfer coroni Lerpwl yn bencampwyr

Luke Biggins

Mae Cymro sydd yn gefnogwr brwd o dîm pêl-droed Lerpwl wedi cerdded o Gaerdydd i Anfield er mwyn gweld ei dîm yn cael eu coroni’n bencampwyr Lloegr brynhawn ddydd Sul.

Mae Luke Biggins, o Lanedern yng Nghaerdydd, wedi cerdded dros 150 milltir mewn pum diwrnod, yng nghwmni ei ffrind Charlie Manley.

Y nod i’r cefnogwr pêl-droed, sydd yn dad i ddau o blant, oedd cyrraedd Anfield ar gyfer gêm olaf y tîm y tymor hwn, yn erbyn Crystal Palace.

Wrth ymgymryd â’r her, fe benderfynodd y byddai yn casglu arian ar gyfer elusen iechyd meddwl MIND.

Roedd Mr Biggins yn diweddaru ei ddilynwyr ar y cyfryngau cymdeithasol gyda fideos byw drwy gydol y daith oedd yn ei dywys naill ochr i’r ffin rhwng Cymru a Lloegr.

Wrth iddo gyrraedd Anfield roedd yn ei ddagrau wrth ffilmio fideo i’w ddilynwyr.

“Mae wedi bod yn daith hollol anhygoel,” meddai.

“Diolch i bawb am eu cefnogaeth ac am hoffi fy nghynnwys a fy nilyn, ac am roi arian i’r achos.”

Dywedodd hefyd y byddai parti yn ei groesawu pan fydd yn dychwelyd adref.

Roedd wedi gosod £1,000 fel targed codi arian yn wreiddiol, ond erbyn amser cic gyntaf y gêm, roedd wedi llwyddo i godi cyfanswm o £3,318.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.