Cyhuddo bachgen 15 oed o lofruddio merch naw oed

Aria

Mae bachgen 15 oed wedi cael ei gyhuddo o lofruddio merch naw oed yn Weston-super-Mare.

Bydd y bachgen, nad oes modd ei enwi oherwydd ei oedran, yn ymddangos yn Llys Ynadon Bryste ddydd Mercher.

Cafodd swyddogion Heddlu Avon a Gwlad yr Haf eu galw i Lime Close yn y dref ychydig cyn 18:10 ddydd Llun, lle'r oedd Aria Thorpe wedi ei thrywanu.

Cafodd y bachgen ei arestio yn Worle ychydig yn ddiweddarach.

Dywedodd yr Uwcharolygydd Jen Appleford: “Mae hwn yn parhau i fod yn gyfnod anodd iawn i deulu Aria, ac rydym yn parhau i’w cefnogi a’u diweddaru am ein hymchwiliad.

“Mae’n amhosibl disgrifio’n ddigonol pa mor drawmatig y mae’r 36 awr ddiwethaf wedi bod iddynt a hoffem ailadrodd yn y termau cryfaf posibl eu cais am breifatrwydd.

“Mae colli merch mor ifanc wedi achosi llawer iawn o sioc a gofid, ac mae teimlad dwys o golled yn cael ei deimlo ledled y gymuned.

“Rydym yn gweithio’n agos gydag asiantaethau eraill ac ysgolion ledled ardal Weston i wneud yn siŵr bod y rhai sydd wedi eu heffeithio yn cael mynediad at unrhyw gefnogaeth sydd ei hangen arnynt.”

Llun: PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.