Carcharu tiwtor mathemateg o Bowys am ymosod yn rhywiol ar ferch 16 oed
Mae cyn athro o Bowys a oedd yn gweithio fel tiwtor mathemateg wedi'i garcharu am 27 mis am ymosod yn rhywiol ar ferch 16 oed.
Cafwyd Mark De La Mare, 63 oed, o Feifod, yn euog gan reithgor yn Llys y Goron yr Wyddgrug ar ôl iddo wadu cyflawni'r drosedd ym mis Chwefror 2023.
Dywedodd yr erlyniad fod ei law wedi llithro i fyny coes y dioddefwr, gyda'r barnwr Rhys Rowlands yn dweud wrtho: "Fe wnaethoch chi ildio i’ch greddfau israddol a manteisio ar ferch ifanc."
Roedd hi wedi ceisio lladd ei hun ers hynny.
Dywedodd y barnwr fod llythyrau a gafodd eu hysgrifennu gan glerigwyr, cyn-gydweithwyr a phenaethiaid ysgolion yn dangos ochr wahanol i’w gymeriad.
"Bydd rhai ohonyn nhw, efallai’n myfyrio, yn ystyried eu llythyrau fel rhai annoeth," meddai'r Barnwr Rowlands.
Ychwanegodd fod gan rai o’r bobl oedd wedi darparu geirda ar gyfer cymeriad y diffynnydd, gan wybod am y cyhuddiad yr oedd yn ei wynebu, blant yn eu gofal.
Dywedodd cynghorydd cyfreithiol De La Mare ei fod yn parhau i wadu'r cyhuddiad yn ei erbyn.
Fe wnaeth y Barnwr Rowlands ddweud wrtho: "Nid oes gennych unrhyw edifeirwch o gwbl, gan eich bod yn parhau i wadu unrhyw atyniad rhywiol at y dioddefwr, ac nid oes gennych unrhyw fewnwelediad i’r niwed difrifol diamheuol yr ydych wedi'i achosi i’r dioddefwr."
Yn dilyn ei ddedfryd bydd yn rhaid iddo gofrestru fel troseddwr rhyw.
Wrth agor yr achos, dywedodd yr erlynydd Josh Gorst fod y tiwtor wedi hysbysebu ei wasanaethau ar Facebook.
Ychwanegodd y cynghorydd cyfreithiol: "Roedd Mr De La Mare wedi manteisio ar y cyswllt un-i-un hwnnw â phobl."