Arestio dyn mewn cysylltiad â llofruddiaethau Harry a Megan Tooze yn 1993

Harry a Megan Tooze

Mae Heddlu De Cymru wedi arestio dyn 86 oed mewn cysylltiad â llofruddiaethau Harry a Megan Tooze dros 30 mlynedd yn ôl.

Cafodd y cwpl eu canfod yn farw gydag anafiadau saethu yn eu ffermdy yn Llanhari ar 26 Gorffennaf 1993.

Dechreuodd yr heddlu adolygiad fforensig o'r achos yn 2023 ac mae ditectifs bellach wedi arestio dyn.

Cafodd ei arestio yn gynharach ddydd Mercher ac mae yn y ddalfa.

Dywedodd yr Uwch Swyddog Ymchwilio, y Ditectif Uwch-arolygydd Mark Lewis: “Er bod yr arestiad hwn yn amlwg yn ddatblygiad arwyddocaol yn yr ymchwiliad, mae ein hymholiadau'n parhau.

“Mae'r achos hwn wedi effeithio ar lawer o bobl dros y blynyddoedd a'n nod yw dod o hyd i'r atebion i'r cwestiynau sy'n parhau am eu marwolaethau dros 30 mlynedd yn ddiweddarach. 

"Hyd yn oed gyda'r amser sydd wedi mynd heibio, rwy'n apelio at unrhyw un sydd â gwybodaeth am y llofruddiaethau i ddod ymlaen a siarad â'r heddlu.”

Ar fore Llun 26 Gorffennaf 1993, gadawodd Harry a Megan eu fferm i gasglu eu pensiynau yn Llanhari a gwelwyd nhw'n cyrraedd yn ôl am 11:00.

Tua 13:30, clywodd cymdogion ddwy ergyd gwn ond nid oedd hyn yn cael ei ystyried yn anarferol ar fferm.

Galwyd yr heddlu pan na chafodd galwad ffôn gan eu merch ei hateb. 

Aeth swyddogion i'r fferm a darganfod cyrff Harry a Megan mewn sied wartheg.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am farwolaethau Harry a Megan Tooze gysylltu â Heddlu De Cymru gan ddyfynnu cyfeirnod 2300016841.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.