Cynnal Eisteddfod Genedlaethol 2027 ym Mhowys

Eisteddfod Genedlaethol 2024

Fe fydd Eisteddfod Genedlaethol 2027 yn cael ei chynnal ym Mhowys. 

Fe fydd y gwaith o baratoi ar gyfer yr ŵyl yn dechrau ar 13 Ionawr mewn cyfarfod cyhoeddus yng Nghanolfan Glantwymyn. 

Dydy'r Eisteddfod Genedlaethol heb gael ei chynnal ym Mhowys ers dros 10 mlynedd.

Dywedodd Prif weithredwr yr Eisteddfod, Betsan Moses: "Rydyn ni’n falch iawn o gyhoeddi mai Powys fydd cartref Eisteddfod Genedlaethol 2027. ‘Dydyn ni heb fod i Bowys ers dros ddeng mlynedd, ac fe fydd yn braf cael dychwelyd i’r ardal.  

"Byddwn yn cyhoeddi manylion am y dalgylch yn y cyfarfod cyhoeddus, ac rwy’n mawr obeithio y bydd ‘na awch gan drigolion lleol i ymuno a chydweithio dros y deunaw mis nesaf."

Ychwanegodd Llywydd Llys yr Eisteddfod, Nic Parry: "Dyma’r tro cyntaf i mi fod ynghlwm â phrosiect yr Eisteddfod o’r cychwyn yn rhinwedd fy swydd fel Llywydd y Llys, ac rwy’n edrych ymlaen yn arw iawn at gydweithio’n agos gyda thrigolion bro’r Eisteddfod. 
 
"Gwn fod Eisteddfod Maldwyn a’r Gororau 2015 wedi bod yn gyfnod o gydweithio hapus. Ac rwy’n gobeithio y bydd y cyhoeddiad am gychwyn prosiect 2027 yn cael croeso, gyda thrigolion a chymunedau ar draws y dalgylch yn awyddus i ymuno â’r tîm i gydweithio ar y prosiect cymunedol a’r ŵyl ei hun."
 
Mae'r cyhoeddiad hefyd yn cael ei groesawu gan y Cynghorydd Glyn Preston, Aelod Cabinet dros Bowys Mwy Llewyrchus yng Nghyngor Powys.
 
"Rydyn ni wrth ein boddau i groesawu’r Eisteddfod Genedlaethol yn ôl i Bowys. Mae’r dathliad hwn o ddiwylliant a chreadigrwydd nid yn unig yn amlygu cyfoeth ein treftadaeth genedlaethol, ond hefyd yn dod â chymunedau ynghyd, gan ysbrydoli ymwelwyr o bob ardal."
 
Fe fydd y cyfarfod cyhoeddus yn rhoi cyfle i bobl leol ddangos eu cefnogaeth a chofrestru i ymuno â'r tîm.

 
 
 



 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.