Newyddion S4C

Ymchwiliad yn parhau i farwolaeth bachgen 16 oed yn y Barri

Taha Soomro

Mae Heddlu De Cymru’n parhau i ymchwilio i farwolaeth bachgen 16 oed ym Mharc Pleser Ynys y Barri ddydd Gwener.

Bu farw Taha Soomro, o Drelluest (Grangetown), yn dilyn “digwyddiad meddygol”.

Cafodd bachgen 15 oed o Drelluest ei arestio ar amheuaeth o ymosod yn dilyn y digwyddiad.

Dywedodd yr heddlu fore dydd Sul ei fod bellach wedi ei ryddhau ar fechnïaeth tra bod yr ymchwiliad yn parhau.

Cafodd swyddogion eu galw i'r parc ym Mro Morgannwg ddydd Gwener am tua 17:00 yn dilyn adroddiadau fod bachgen wedi dioddef ‘digwyddiad meddygol’.

Er gwaethaf ymdrechion y gwasanaethau brys, bu farw’r bachgen yn y fan a’r lle.

Dywedodd yr heddlu fore dydd Sul: “Mae teulu Taha wedi cael ei ddiweddaru ac yn parhau i gael ei gefnogi.

“Mae ymholiadau helaeth yn parhau i ganfod achos ac amgylchiadau marwolaeth Taha.

Dylai unrhyw un a oedd ym Mharc Pleser Ynys y Barri adeg y digwyddiad, tua 5pm ddydd Gwener, Mai 23, fod â gwybodaeth a allai fod o gymorth i ni gysylltu â ni.

“Mae ditectifs yn arbennig o awyddus i dderbyn unrhyw ffilm ffôn symudol.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.