
'Dychrynllyd': Rhybudd mam o Fôn am lid yr ymennydd mewn oedolion
'Dychrynllyd': Rhybudd mam o Fôn am lid yr ymennydd mewn oedolion
Mae mam o Fôn a gafodd ei tharo'n wael gan lid yr ymennydd yn annog pobl i fod yn ymwybodol o'r clefyd mewn oedolion.
Roedd Nia Jewell, 41, o Walchmai, yn gwylio'r teledu gyda'i theulu pan ddechreuodd deimlo'n sâl gyda "symptomau'r ffliw".
Dridiau'n ddiweddarach, doedd hi ddim yn codi o'i gwely ac fe gafodd ei hanfon i'r ysbyty i gael triniaeth ar gyfer llid yr ymennydd.
Yn ôl yr elusen Meningitis Now, mae'r camsyniad bod y clefyd yn effeithio ar blant a phobl ifanc yn unig yn "beryglus".
Yn sgil hynny mae'r elusen yn ymgyrchu i godi ymwybyddiaeth bod llid yr ymennydd yn "gallu effeithio unrhyw un".
Mae Nia yn diolch i'w theulu am ei hanfon at y meddyg ac yn annog eraill i beidio â bod ofn gweithredu mewn argyfwng.
'Poen annioddefol'
Fel person "eithaf cryf ac iach", dywedodd Nia, sy'n gyn-athrawes, bod y clefyd wedi ei "dychryn".
"Roedd y poen yn y pen yn wahanol i unrhyw beth o'n i wedi profi o’r blaen," meddai wrth Newyddion S4C.
"Doedd y paracetamol ddim yn gweithio, doedd trio cael fy hun mewn osgo gwahanol ddim yn gweithio - doedd 'na ddim ysbaid i ffwrdd o’r boen.
"Erbyn y trydydd diwrnod, mi oedd o’n annioddefol a do’n i methu symud fy mhen."
Cafodd ei hanfon i'r ysbyty lle cafodd bigiad yn y lwynau (lumbar puncture) i gadarnhau bod ganddi lid yr ymennydd bacteriol.

A hithau'n fam i dri o fechgyn ifanc, dywedodd Nia ei bod yn ymwybodol o symptomau llid yr ymennydd mewn plant.
"Mae rhywun fel rhiant 'di cael eu hyfforddi i chwilio am hyn yn y plant, heb feddwl bo' hyn yn gallu digwydd i ti," meddai.
"Dwi’n cofio pan nath y doctor ddod mewn i ddeud bod bob dim yn pwyntio tuag at feningitis, dwi’n cofio hwnna odd y bwgan.
"Hwnna oedd y term dwi 'di bod yn ei ofni wrth fagu fy mhlant ers blynyddoedd."
Yn dilyn y diagnosis, cafodd ei chadw yn yr ysbyty am wythnos i gael triniaeth wrthfiotig.

Yn ôl Claire Donovan, rheolwr nyrsio o'r elusen Meningitis Now, mae'r camsyniad mai plant yn unig sy'n dioddef o lid yr ymennydd yn "beryglus".
"Yn hanesyddol mae baich llid yr ymennydd wedi disgyn ar blant ifanc, yn enwedig plant o dan bump oed, felly dyna lle roedd y ffocws," meddai.
"Ond rŵan bod gennym ni raglenni brechu da, mae llai o glefydau ymhlith plant dan bump oed a phlant bach ac mae baich y clefyd wedi symud i oedolion.
"Does 'na ddim mwy o oedolion yn cael y clefyd, ond mae'n dod yn fwy amlwg bod oedolion yn ei gael.
"Gall unrhyw un o unrhyw oedran ddal llid yr ymennydd - nid yw'n gwahaniaethu ar sail oedran."

Dau fis a hanner yn ddiweddarach, mae Nia yn dal i ddioddef o sgil-effeithiau'r clefyd.
"Dwi ddim yn ôl i sut oeddwn i – dwi 'di clywed chwe mis yn cael ei daflu o gwmpas i ddod yn ôl i sut oeddet ti cyn salwch," meddai.
"Ond mae pob unigolyn yn wahanol ac ar hyn o bryd mae gen i gur yn pen, newidiadau yn y clyw a blinder.
"Dwi'n wyrthiol i feddwl be fyswn i’n disgwyl i fi fod, felly dwi’n ddiolchgar iawn."
Mae hi'n annog pobl i beidio â bod ofn gweithredu ar ran eu hanwyliaid pan fyddan nhw'n wael.
"Fel arfer dwi yn berson sydd yn mynd at y doctor," meddai.
"Ond yn yr achos yma o'n i mor gysglyd ag o'n i ddim cweit fy hun a dwi'm yn siŵr os fyswn i wedi gallu gwneud y penderfyniad 'na drost fy hun.
"Felly, dyna pam dwi'n hynod ddiolchgar bod gen i oedolion eraill yn y teulu – fy ngŵr, fy chwaer a rhieni – nath ddod a gwneud y penderfyniad drosta i."
Beth yw'r symptomau?
Gall nifer o firysau, bacteria a ffyngau achosi llid yr ymennydd. Yn y DU, firysau a bacteria yw'r achosion mwyaf cyffredin.
Mae Claire Donovan o'r elusen Meningitis Now yn dweud ei bod yn "hollbwysig" i bobl fod yn ymwybodol o symptomau'r clefyd.
"Os dyw pobl ddim yn ymwybodol o beth i chwilio amdano ac yn gwybod beth i'w wneud, mae hynny yn gallu bod yn beryglus," meddai.
Dywedodd bod symptomau'r clefyd yn cynnwys:
• Cur pen difrifol
• Tymheredd uchel
• Gwddf anystwyth
• Poen yn y cyhyrau
• Atgasedd at oleuadau llachar
• Bod yn sâl
• Teimlo'n gysglyd
• Ffitiau
Er bod brech hefyd yn symptom posib, mae hi'n rhybuddio pobl i "beidio ag aros" i frech ymddangos.
"Ni fydd pawb gyda llid yr ymennydd yn cael brech a gall y frech fod yn arwydd hwyr iawn," meddai.
"Felly, os oes gan rywun rydych chi'n eu hadnabod nifer o'r symptomau hyn a'u bod yn gwaethygu'n gyflym, dylen nhw fod yn cael cyngor meddygol brys."
Ychwanegodd y dylai unrhyw un sydd wedi'u heffeithio gan lid yr ymennydd gysylltu â llinell gymorth yr elusen.
Os ydych wedi cael eich heffeithio gan faterion sydd yn cael eu trafod yn yr erthygl hon, mae cymorth ar gael yma.