Syr Alan Bates wedi cael cynnig ‘dim ond hanner' ei gais am iawndal
Mae Syr Alan Bates wedi cyhuddo’r llywodraeth o gyflwyno cynnig o iawndal gwerth llai na hanner yr hyn y mae wedi ei hawlio.
Dywedodd y cyn is-bostfeistr o Landudno, sydd wedi ymgyrchu dros gyfiawnder i ddioddefwyr sgandal Swyddfa’r Post, fod gweinidogion yn llywyddu dros “lysoedd answyddogol” ac yn newid y “telerau” ar eu dyfarniadau.
Wrth ysgrifennu yn y Sunday Times, dywedodd Syr Alan: "Mae hawliadau yn cael, ac wedi cael eu dymchwel ar y sail gyfreithiol na fyddech yn gallu eu gwneud, neu nad yw fframwaith y cynllun yn ymestyn i rai eitemau."
Dywedodd yr Adran Busnes a Masnach: "Gall unrhyw un sy'n anhapus gyda'u cynnig gael eu hachos wedi'i adolygu gan banel o arbenigwyr."
Rhwng 1999 a 2015, cafodd mwy na 900 o is-bostfeistri eu herlyn ar gam ar ôl i system dechnoleg ddiffygiol Horizon nodi diffygion yng nghyfrifon canghennau Swyddfa’r Post.
Fe wnaeth Syr Alan arwain grŵp o 555 o is-bostfeistri a gymerodd ran yn y camau cyfreithiol yn erbyn Swyddfa’r Post.
Daeth eu brwydr dros gyfiawnder i ymwybyddiaeth genedlaethol y llynedd gan ddrama ITV am y sgandal, Mr Bates vs The Post Office.
Fe aeth Llywodraeth y DU ymlaen i sefydlu cronfa iawndal benodol i sicrhau bod yr is-bostfeistri hyn yn cael arian ychwanegol i adlewyrchu difrifoldeb eu sefyllfaoedd, ond mae’r broses wedi'i ddisgrifio fel un araf ac mae llawer yn dal i aros am daliad.
O dan y cynllun Gorchymyn Ymgyfreitha Grŵp (GLO), gall hawlwyr naill ai dderbyn £75,000 neu geisio setliad eu hunain.
'Diwerth'
Dywedodd Syr Alan, sydd yn byw yn Llanelian, fod addewidion y byddai cynlluniau iawndal "ddim yn ddeddfol" wedi troi allan i fod yn "ddiwerth".
Mae hefyd wedi galw am greu corff annibynnol i gyflawni cynlluniau iawndal ar gyfer y sgandalau sector cyhoeddus hwn a rhai tebyg.
Ym mis Ionawr, roedd £128m wedi'i dalu o dan y cynllun GLO, gan gynnwys taliadau interim, yn ôl data'r llywodraeth.
Dywedodd llefarydd ar ran yr Adran Busnes a Masnach: “Rydym yn rhoi teyrnged i’r holl bostfeistri sydd wedi dioddef o’r sgandal hwn, gan gynnwys Syr Alan am ei ymgyrch ddiflino dros gyfiawnder, ac rydym wedi cynyddu pedair gwaith y cyfanswm a dalwyd i bostfeistri ers dod yn lywodraeth.
"Rydym yn cydnabod y bydd diffyg tystiolaeth o ystyried yr amser sydd wedi mynd heibio, ac felly rydym yn anelu at roi mantais yr amheuaeth i bostfeistri cyn belled ag y bo modd.
"Gall unrhyw un sy'n anfodlon â'u cynnig gael adolygiad o'u hachos gan banel o arbenigwyr, sy'n annibynnol o’r llywodraeth."