Cwmni trenau cyntaf i gael ei ailwladoli gan Lafur yn dod dan reolaeth y Llywodraeth
Mae cynllun Llywodraeth y DU i ailwladoli'r rheilffyrdd wedi cychwyn.
South Western Railway (SWR) yw'r cwmni trenau cyntaf i drosglwyddo i berchnogaeth gyhoeddus o dan Lafur.
Fe adawodd y gwasanaeth gwladoledig cyntaf, o Woking i London Waterloo, ar amser am 05:36 ddydd Sul.
Dywedodd y llywodraeth ei fod yn “wawr newydd i’r rheilffyrdd” ond heb addo prisiau is, gan ganolbwyntio ar gynlluniau i wella gwasanaethau a defnyddio elw i ail-fuddsoddi mewn seilwaith.
Mae undebau wedi mynegi pryderon am ddefnyddio cwmnïau preifat i ddarparu staffio ar gyfer diogelwch, glanhau a meysydd eraill.
Mae’r Ceidwadwyr wedi dweud bod yn rhaid i Lafur “gyflawni eu haddewidion”.
Bydd dau gwmni rheilffordd arall, C2C a Greater Anglia, yn dod i berchnogaeth gyhoeddus yn ddiweddarach eleni.
Mae trenau SWR bellach yn gyfrifoldeb yr Adran Drafnidiaeth a byddant yn cael eu hintegreiddio i Great British Railways (GBR), a fydd yn goruchwylio’r holl seilwaith rheilffyrdd.
Ni fydd GBR yn bodoli'n swyddogol nes bydd ASau yn pleidleisio i'w greu, sy'n edrych yn debyg o fod yn yr hydref er na fydd yn weithredol am beth amser wedyn. Tan hynny, yr Adran Drafnidiaeth fydd yn rheoli.
Gwasanaethau yng Nghymru
Bydd dau gwmni rheilffordd arall, C2C a Greater Anglia, yn dod i berchnogaeth gyhoeddus yn ddiweddarach eleni.
Mae pedwar cwmni mawr eisoes wedi’u dwyn o dan berchnogaeth gyhoeddus o dan lywodraethau Ceidwadol blaenorol – London North Eastern Railway (LNER), South East, TransPennine Express a Northern.
Bydd saith cwmni arall yn cael eu hailwladoli erbyn 2027 wrth i bob un o’u contractau ddod i ben – neu’n gynt os bernir bod eu perfformiad yn annerbyniol gan gynnwys Great Western ac Avanti West Coast, sy’n darparu gwasanaethau yng Nghymru.
Y rhain yw:
- West Midlands Trains
- East Midlands Railway
- Avanti West Coast (gwethredu yng ngogledd Cymru)
- CrossCountry
- Chiltern Railways
- Govia Thameslink Railway
- Great Western (gweithredu yn ne Cymru)
Mae cynlluniau presennol Llywodraeth y DU yn bwriadu ailwladoli bron pob gwasanaeth rheilffordd i deithwyr ar draws Cymru, Lloegr a’r Alban erbyn 2030.
Mae’r system reilffyrdd yng Nghymru yn gymhleth.
Er bod gan Lywodraeth Cymru rai pwerau datganoledig, yn enwedig o ran gweithredu’r rhwydwaith rheilffyrdd a phennu telerau ar gyfer y gweithredwr Trafnidiaeth i Gymru, mae agweddau allweddol fel cynllunio seilwaith a chyllid dan reolaeth Senedd y DU.
Mae rhai agweddau, ond nid pob un, ar y system reilffyrdd wedi'u datganoli.
Network Rail sy'n berchen ar y rhan fwyaf, ond nid y cyfan, o'r seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru.