Cyd-yrrwr o Gymru wedi marw mewn rali yn yr Alban
Mae cyd-yrrwr o Gymru wedi marw mewn rali yn yr Alban.
Mewn datganiad ddydd Sadwrn dywedodd Motorsport UK fod Dai Roberts, 39 oed, o Gaerfyrddin wedi colli ei fywyd mewn digwyddiad yn ystod Rali Jim Clark.
Cafod y gyrrwr, James Williams, 27 oed, o Gastell Newydd Emlyn, ei gludo i’r ysbyty yng Nghaeredin gydag anafiadau difrifol ond nid rhai sy’n peryglu ei fywyd.
Mewn datganiad brynhawn dydd Sadwrn dywedodd Motorsport UK: “Mae Motorsport UK yn drist iawn o gyhoeddi bod y cyd-yrrwr Dai Roberts wedi colli ei fywyd mewn digwyddiad yn Rali Jim Clark ar ddydd Sadwrn 24 Mai 2025.
“Cafodd y gyrrwr James Williams ei gludo mewn ambiwlans i Ysbyty Brenhinol Caeredin gydag anafiadau difrifol ond nad oedd yn peryglu ei fywyd.
“Mae Motorsport UK yn anfon ei gydymdeimlad at deulu a ffrindiau Dai, Rali Jim Clark, Clwb Moduron Coffa Jim Clark ac aelodau o’r gymuned moduro.
“Mae Motorsport UK wedi cychwyn ymchwiliad llawn i amgylchiadau’r digwyddiad a bydd yn gweithio’n agos gyda threfnwyr digwyddiad Rali Jim Clark a Chlwb Moduro Coffa Jim Clark a bydd yn cydweithredu â’r awdurdodau perthnasol.”
Cafodd Mr Roberts ei anafu mewn rali yng Ngogledd Iwerddon yn 2014 a bu farw ei frawd, Gareth, mewn rali ar ynys Sisili yn 2012.
Cafodd y rali ei chanslo yn dilyn y digwyddiad.
Inline Tweet: https://twitter.com/ourmotorsportuk/status/1926299848757625122