Rygbi: Cwpan y Byd i glybiau yn cael ei gadarnhau
Mae cynlluniau i gynnal Cwpan Rygbi Clybiau’r Byd am y tro cyntaf erioed yn 2028 wedi eu cadarnhau.
Yn dilyn trafodaethau yng Nghaerdydd ddydd Gwener ar drothwy rowndiau terfynol Cwpan Her Ewrop a Chwpan Pencampwyr Ewrop, mae undebau a chynghreiriau wedi cytuno’n unfrydol i greu’r gystadleuaeth newydd i glybiau.
Yn ôl trefnwyr y gystadleuaeth, European Professional Club Rugby (EPCR), fe fydd 16 tîm yn cymryd rhan yn gystadleuaeth gyntaf ym Mehefin 2028.
Mae’r drws yn agored i ranbarthau o Gymru gyrraedd y gystadleuaeth, gydag wyth tîm o Ewrop yn cymhwyso drwy Gwpan y Pencampwyr.
Bydd gweddill y timau yn dod o Japan, ac o gynghrair Super Rugby Pacific, sy’n cynnwys timau o Seland Newydd, Awstralia, Ffiji ac ynysoedd y Cefnfor Tawel.
Fe fydd y gystadleuaeth yn cael ei chynnal bob pedair blynedd, yn ôl trefnwyr.
Dywedodd Cadeirydd EPCR Dominic McKay: “Er mwyn codi'r gamp o rygbi clybiau proffesiynol yn ei chyfanrwydd, rydym am greu’r cynllun Cwpan Clybiau’r Byd yn 2028 a 2032 gyda’n cyfeillion o hemisffer y de.
“Unwaith bob pedair blynedd gan gychwyn yn 2028, byddwn yn dod a chlybiau gorau’r byd o hemisffer y de i frwydro yn erbyn goreuon y gogledd – a phwy na fyddai eisiau canfod pa glwb yw’r gorau yn y byd.”