Undeb Ewropeaidd yn galw am 'barch' wedi i Trump fygwth tariffau 50%
Mae un o benaethiaid yr Undeb Ewropeaidd (UE) yn dweud ei fod yn gobeithio sicrhau cytundeb masnach gyda’r Unol Daleithiau yn seiliedig ar ‘barch’ ac nid ‘bygythiadau’.
Ddydd Gwener, fe ddywedodd Arlywydd America Donald Trump ei fod yn ystyried gosod tariffau o 50% ar holl fewnforion y wlad o’r UE.
Dywedodd Trump ar y cyfryngau cymdeithasol fod trafodaethau gyda’r Undeb "ddim yn mynd i'r unman”, gan ychwanegu ei fod yn bwriadu codi’r tariffau ar 1 Mehefin.
Dywedodd hefyd y byddai yn ystyried oedi hynny pe byddai buddsoddiad mawr gan gwmni o Ewrop yn yr UDA yn cael ei sicrhau.
Ychwanegodd na fyddai tollau ar nwyddau wedi’u creu yn yr UDA.
“Dwi i ddim yn edrych am gytundeb – rydym wedi gosod y cytundeb,” meddai Trump.
Wrth ymateb i’r posibilrwydd o dariffau, dywedodd pennaeth masnach yr UE bod y sefydliad wedi “ymrwymo’n llwyr i sicrhau cytundeb sydd yn gweithio i’r naill ochr".
“Mae masnach rhwng yr UE a’r UDA heb ei ail ac fe ddylai gael ei arwain gan barch ac nid bygythiadau.
"Rydym yn sefyll yn barod i amddiffyn ein diddordebau,” meddai Comisiynydd Masnach yr UE, Maros Sefcovic.
Fe wnaeth yr UE allforio gwerth £443 biliwn o nwyddau i America'r llynedd, yn ôl ffigyrau llywodraeth yr UDA, gyda’r UE yn prynu gwerth £273 biliwn o nwyddau o America.