Dyn o Wynedd yn parhau yn yr ysbyty gydag anafiadau difrifol wedi gwrthdrawiad
Mae dyn o Wynedd sydd â “chalon llawn gobaith” yn parhau yn yr ysbyty ar ôl dioddef anafiadau difrifol i'w ymennydd mewn gwrthdrawiad yn gynharach yn y mis.
Fe gafodd Owain Evans, 23 oed, o ardal Porthmadog a Blaenau Ffestiniog, ei gludo gan hofrennydd i Ysbyty Prifysgol Stoke yn dilyn gwrthdrawiad un cerbyd yn ardal Cricieth ar 8 Mai.
Yn ôl datganiad gan ei deulu, fe wnaeth ddioddef anaf difrifol i’w ymennydd yn y digwyddiad, yn ogystal ag anafiadau eraill.
Fe gafodd llawdriniaeth ar frys er mwyn ceisio atal y difrod i’w ymennydd rhag lledaenu.
Yn ôl ei deulu, “mae’r ffordd ymlaen yn un hir a heriol”.
“Tra bod cyflwr Owain yn aneglur a’i adferiad yn anodd ei rhagweld, mae difrifoldeb yr anaf yn dorcalonnus.
“Hoffwn ni ddiolch i’r gwasanaethau brys a wnaeth ymateb i’r digwyddiad ac i’r staff sydd wedi gweithio’n ddi-flino yn yr uned gofal dwys.
"Rydych chi i gyd yn ysbrydoliaeth ac rydym yn ddiolchgar dros ben.”
'Gwir anturiaethwr'
Mae’r apêl i godi arian wedi ei lansio er mwyn talu am gostau teithio a llety i’r teulu, i’w galluogi fod gydag Owain tra ei fod yn derbyn triniaeth yn yr ysbyty.
Bydd yr arian hefyd yn mynd tuag at gyfarpar i atgyweirio a diogelu’r cartref, tra bod arian hefyd yn cael ei roi i uned gofal dwys Ysbyty Prifysgol Stoke ac elusennau anafiadau’r ymennydd.
“Mae unrhyw un sydd yn nabod Owain yn gwybod pa mor arbennig ydy o, ar y tu mewn a thu allan.
"Mae’n wir anturiaethwr, rhywun sydd yn cofleidio bywyd gyda breichiau agored a chalon llawn gobaith, hyd yn oed pan mae’n wynebu heriau yn ei fywyd.
"Mae ganddo gymaint o fywyd ar ôl i fyw, cariad i’w roi a breuddwydion o’i flaen.
“Rydym yn estyn allan i deulu, ffrindiau ac unrhyw un sydd wedi’u cyffwrdd gan ei stori.
"Rydym angen eich help er mwyn rhoi’r gofal orau bosib iddo a rhoi pob cyfle iddo i wella.”
Llun: Go Fund Me