Newyddion S4C

Enwi bachgen 16 oed a fu farw mewn ffair yn y Barri

Enwi bachgen 16 oed a fu farw mewn ffair yn y Barri

Mae bachgen 16 oed a fu farw yn dilyn 'digwyddiad meddygol' ym Mharc Pleser Ynys y Barri ddydd Gwener wedi cael ei enwi.

Fe wnaeth Heddlu De Cymru gadarnhau mai Taha Soomro, o Drelluest (Grangetown), oedd enw'r bachgen.

Mae bachgen 15 oed o Drelluest wedi ei arestio ar amheuaeth o ymosod yn dilyn y digwyddiad, ac mae’n parhau yn y ddalfa.

Cafodd swyddogion eu galw i'r parc ym Mro Morgannwg ddydd Gwener am tua 17:00 yn dilyn adroddiadau fod bachgen wedi dioddef ‘digwyddiad meddygol’.

Er gwaethaf ymdrechion y gwasanaethau brys, bu farw’r bachgen yn y fan a’r lle.

Image
Barri
Hofrennydd yn hedfan dros Barc Pleser Ynys y Bari (Llun: ITV Cymru)

Mae ymchwiliad yn parhau er mwyn ceisio deall amgylchiadau’r digwyddiad, ac mae'r llu yn annog pobl i beidio â dyfalu ar y cyfryngau cymdeithasol.

Mae teulu Taha Soomro yn cael eu diweddaru gan swyddogion.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu De Cymru: “Hoffwn glywed gan unrhyw un a oedd ym Mharc Pleser Ynys y Barri yn ystod yr un amser, sydd ag unrhyw wybodaeth allai gynorthwyo ein hymchwiliad.”

Mae swyddogion yn awyddus i dderbyn unrhyw luniau a gafodd eu ffilmio yn ystod yr un amser a'r digwyddiad.

Prif Lun: Taha Soomro (llun teulu)

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.