Newyddion S4C

Eisteddfod yr Urdd: Annog pobl i gefnogi busnesau lleol ym Mhort Talbot

Eisteddfod yr Urdd: Annog pobl i gefnogi busnesau lleol ym Mhort Talbot

Mae cadeirydd pwyllgor gwaith Eisteddfod yr Urdd Parc Margam yn annog pobl i gefnogi busnesau lleol ym Mhort Talbot.

Fe fydd Eisteddfod Dur a Môr yn cael ei chynnal o yfory ymlaen ym Mharc Margam yn sir Castell-nedd Port Talbot.

Ychydig ddyddiau cyn i'r wŷl gychwyn mae cadeirydd y pwyllgor gwaith, Laurel Davies yn galw ar bobl i ymweld â'r dref yn ogystal â threulio amser ar y maes.

Yn gynharach eleni cafodd ffwrnesi chwyth yng ngweithfeydd dur Port Talbot eu cau.

Daeth hynny a chost gyda channoedd o weithwyr yn colli eu gwaith.

“Yn ddi-gwestiwn rydym ni eisiau pobl i fynd allan a chefnogi busnesau lleol, achos mae wedi bod yn gyfnod anodd," meddai wrth Newyddion S4C.

“Mae’n ardal mor bendigedig ac mae pobl yn anghofio hynny.

“Mae tre’ Port Talbot yn hyfryd, ma’ digon o siopau lyfli yno."

Ychwanegodd Laurel Davies: “Mae taith gelfyddydol hefyd o gwmpas y dref felly mae cymaint o gyfleoedd i bobl i weld pethau.

“Bydden i’n argymell i bobl cymryd awr fach neu ddwy tu allan i’r maes i weld yr ardal ac i deimlo yn rhan o’r fro ddiwydiannol a chael blas o’r ardal.

“Mae’r ardal wedi gwahodd Cymru gyfan yma felly ewch mas a chefnogwch y busnesau lleol."

Image
Maes yr Eisteddfod ar Barc Margam eleni
Maes yr Eisteddfod ym Mharc Margam eleni

'Torri tir newydd'

Dyma'r tro cyntaf i'r Eisteddfod ddychwelyd i Barc Margam ers 2003, sef 22 o flynyddoedd yn ôl.

Yn ôl yr Urdd mae mwy nag erioed o gofrestriadau i gystadlu eleni, gyda chyfanswm o 119,593.

Hefyd mae'r nifer fwyaf o ddysgwyr yn cystadlu eleni nag o'r blaen - gyda chynnydd o dros 40% o gymharu â 2024.

Mae Laurel Davies yn dweud bod yr Eisteddfod eleni yn "torri tir newydd".

“Ni eisiau teimlo fel bod ni’n perthyn i’r Eisteddfod, ac mae pawb wedi tynnu at ei gilydd i sicrhau bod hynny’n bosib," meddai.

“Ni ‘di trial torri tir newydd mewn ffordd greadigol gyda’r Steddfod yma.

"Rydym wedi bod yn gweithio’n galed i ddenu dysgwyr mewn i'r Steddfod - ehangu nifer y bobl sydd yn gweld y Gymraeg fel iaith sydd yn perthyn iddyn nhw yn ogystal â’r Cymry Cymraeg.

“Byddwn yn gweld llawer o ysgolion ail iaith yn arwain ar y maes a’r llwyfan a byddwn yn croesawu pawb o bob gallu i faes yr Eisteddfod.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.