Newyddion S4C

Sir Benfro: Caniatáu cais i ddatblygu hen westy sydd wedi 'dirywio'n sylweddol'

Rochgate Motel

Mae cynllun gwerth miliynau o bunnoedd i ailddatblygu hen westy yn Sir Benfro wedi ei gymeradwyo gan Barc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro.

Roedd y Roch Gate Motel wedi ei ddisgrifio fel “un o’r blotiau gwirioneddol olaf ar dirwedd ein sir”.

Mae’r cynllun newydd yn cynnwys addewid o greu 18 o swyddi, ac ailagor swyddfa bost a gollwyd ar ôl sgandal Horizon.

Roedd cwmni Newgale Holidays wedi gwneud cais am ganiatâd i ailddatblygu'r hen Roch Gate Motel i fod yn ganolbwynt cymunedol cymysg o’r enw ‘The Gate,’ gan gynnwys siop bentref/swyddfa bost, bistro/bwyty, a datblygiad twristiaeth o 18 caban gwyliau.

Clywodd y pwyllgor cynllunio fod cynlluniau diwygiedig wedi lleihau’r effaith ar y dirwedd, yn ogystal â lleihau nifer y cabanau o 25 i 18 a thynnu unedau diwydiannol a oedd wedi’u cynnwys yn flaenorol o’r cynllun.

Argymhellwyd caniatáu’r cais er gwaethaf pryderon a godwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru ar effeithiau gweledol a thirwedd.

Ond dywedodd adroddiad i gynllunwyr: “Fodd bynnag, cydnabyddir bod y cynnig yn dod â manteision sylweddol o ran cael gwared ar adeilad sy’n achosi niwed i dirwedd y Parc Cenedlaethol ar hyn o bryd, o ystyried ei adfeiliad sylweddol.”

'Palas pinc'

Caeodd yr hen fotel gwag – a alwyd yn “ddolur llygad” mewn ceisiadau blaenorol - yn ôl yn 2008 ac fe gymeradwywyd nifer o gynlluniau ers hynny gan gynnwys fel gwesty pwrpasol a chynllun tai fforddiadwy, ond nid oedd yr un ohonynt wedi dwyn ffrwyth.

Dywedodd y datblygwr Nick Neumann, sydd wedi dod yn gynghorydd sir ers i’r cynllun gael ei grybwyll am y tro cyntaf: “Mae’r hen Rochgate Motel sydd wedi’i leoli wrth y porth i Benrhyn Tyddewi ar yr A487 braidd yn enwog am y rhesymau anghywir gan ei fod yn parhau i fod yn un o’r blotiau olaf ar dirlun ein sir. Sef, mae’r ‘palas pinc’ wedi aros yn segur am bron i 20 mlynedd.

“Roedd y safle, a oedd yn hen orsaf radar o’r Ail Ryfel Byd yn wreiddiol a ddaeth yn safle masnachol gan gynnwys motel, bwyty, sba a chyfleuster digwyddiadau ar ddechrau’r 1960au, yn lleoliad poblogaidd iawn am bron i 50 mlynedd cyn cau ei ddrysau yn 2008.

“Bydd y cynnig yn dod â buddsoddiad sylweddol o filiynau o bunnoedd i’r gymuned, yn creu 18 o swyddi cyfwerth ag amser llawn, yn adfer darpariaethau cymunedol coll, ac yn gweld adfywiad y safle tir llwyd gyda darpariaeth gyffrous newydd i’n cymuned gynyddol yn y Garn.”

“Mae gennym gyllid mewn egwyddor wedi’i gytuno gan Fanc Datblygu Cymru, ac mewn egwyddor arian grant wedi’i gytuno gan Croeso Cymru. 

"Ein bwriad fyddai dechrau’r datblygiad cyn gynted ag y bydd yr amodau wedi’u cyflawni, gyda chynllun cyflwyno fesul cam cwbl ymrwymedig yn ei le gan ddechrau gyda dymchwel yr holl adeiladau presennol a phlannu tirweddu newydd.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.