
Actores o Fôn yn prynu teledu i'w theulu yng Ngwlad Thai i'w gwylio
Actores o Fôn yn prynu teledu i'w theulu yng Ngwlad Thai i'w gwylio
Mae actores ifanc o Fôn a fydd yn serennu mewn cyfres newydd ar S4C wedi prynu teledu i'w theulu yng Ngwlad Thai i wylio'r gyfres.
Mae Dream Williams yn 17 oed ac yn chwarae rhan 'Ela' yng nghyfres Hafiach a fydd yn cael ei darlledu ar S4C ar 4 Mehefin.
Mae’r gyfres yn dilyn taith grŵp o bobl ifanc yn Y Rhyl yng ngogledd Cymru wrth iddyn nhw geisio datrys llofruddiaeth a ddigwyddodd yno.
Fe symudodd mam Dream o Wlad Thai i Gymru dros 20 mlynedd yn ôl, ac mae Dream yn byw gyda'i rhieni ym Môn.
Mae gweddill ei theulu yn parhau i fyw yng Ngwlad Thai, ac er y pellter daearyddol, mae'r berthynas yn un arbennig yn ôl Dream.
"Dwi’n meddwl o’n i’n gallu teimlo’r cymorth er ma’ nhw gymaint i bell i ffwrdd ohona fi, o’n i’n gallu teimlo’r cymorth ganddyn nhw," meddai wrth Newyddion S4C.
"Nath Mam fi symud tua 23 mlynedd yn ôl a ma’ pawb arall dal yn byw yna."

Er mai dyma fydd rôl actio broffesiynol gyntaf Dream, mae'r byd actio wedi bod o ddiddordeb mawr iddi ers yn blentyn.
"Dwi'n meddwl 'naeth y diddordeb ddechra pan o'n i'n tua wyth oed yn yr ysgol gynradd, pan nes i chwara rhan bach yn Dona Direidi, dyna peth cynta fi," meddai.
"Ers hynny, dwi 'di neud lot o betha mewn theatr, a wedyn na'th Hafiach ddod a dyna oedd peth cynta mawr fi.
"'Swn i'n deud diolch masif i Ms Bethan-Catrin Roberts a Ms Glesni Thomas am wastad coelio yna fi yn gwaith drama fi, yn y gwersi a bob dim arall, oeddan nhw wastad yn coelio yna fi a hefyd teulu fi wrth gwrs."

Roedd cefnogaeth ei theulu yn werthfawr iawn i Dream wrth iddi fynd drwy'r broses o gael clyweliadau ar gyfer y gyfres.
"Oeddan nhw’n gymorth mawr idda fi, pan nes i ddeud wrthyn nhw am y clyweliad cyntaf, oeddan nhw’n rili, rili hapus idda fi," meddai.
"Er do’n i heb gael o na’m byd eto, oeddan nhw dal efo lot o ffydd yna fi, a wedyn ‘natho nhw ddeud fysa nhw’n gweddïo idda fi.
"Oedd pawb ‘di dod at ei gilydd yn y pentra’ a mynd i’r temple idda fi, oedd o’n deimlad rili neis ag o’n i’n teimlo lot mwy hyderus wedyn ges i callback, ag aeth hynna yn rili dda hefyd, a ges i’r rhan."

Yn awyddus i roi rhywbeth yn ôl i'w theulu yng Ngwlad Thai, fe brynodd Dream anrheg arbennig iawn iddynt.
"Nes i brynu teledu ar gyfer teulu fi yn Thailand ag ar gyfer y pentre i gyd rili oherwydd ma’ pawb yn rili agos efo’i gilydd a ma’ pawb yn mynd mewn i tŷ ei gilydd, no warnings," meddai.
"Felly ma’ pawb yn gallu gwylio fo efo’i gilydd pan ma’n dod allan.
"Dwi a Llyr (cynhyrchydd y gyfres) 'di bod yn trafod am wneud DVD o'r gyfres a hefyd ffordd o anfon y gyfres iddyn nhw."
Ychwanegodd Dream mai'r rhan gorau am gael y rhan oedd dweud wrth ei theulu yng Ngwlad Thai.
"Y rhan gora oedd deu’tha nhw amdana fo, a ffonio nhw a chael deud y newyddion da iddyn nhw," meddai.
"Ma’ nhw’n rili edrych ymlaen, ma’ nhw wastad yn gofyn amdana fo, a pryd ma’n dod allan, a dwi’n goro remindio nhw bob tro dwi’n ffonio Nain a Taid fi."
Bydd dangosiad arbennig o bennod gyntaf Hafiach ar faes Eisteddfod yr Urdd am 15.00 ddydd Iau, 29 Mai. Bydd yn cael ei darlledu ar S4C ar 4 Mehefin.