Deunaw o bobl wedi’u hanafu mewn ymosodiad â chyllell yn yr Almaen
Mae nifer o bobl wedi dioddef anafiadau sy’n peryglu bywyd mewn ymosodiad â chyllell ym mhrif orsaf reilffordd dinas Hamburg yn yr Almaen.
Dywedodd Heddlu Hamburg fod 18 o bobol wedi’u hanafu yn yr ymosodiad am tua 18:00 amser lleol (16:00 amser Cymru) ddydd Gwener.
Cafodd dynes 39 oed o’r Almaen ei harestio yn y fan a’r lle.
Mae’r ddynes yn parhau yn nalfa’r heddlu ac mae disgwyl iddi ymddangos yn y llys ddydd Sadwrn.
Dywedodd Heddlu Hamburg fod nifer o bobl gafodd eu hanafu wedi dioddef anafiadau sy’n peryglu bywyd.
Ychwanegodd yr heddlu eu bod yn credu bod yr unigolyn sy’n cael ei hamau wedi gweithredu ar ei phen ei hun ac nad oedd ganddi "gymhelliad gwleidyddol".
Yn hytrach, maen nhw'n credu y gallai hi fod "mewn cyflwr o drallod meddwl," yn ôl llefarydd ar ran yr heddlu.
Ychwanegodd yr heddlu yn ddiweddarach fod eu hadran lladdiadau yn ymchwilio i'r digwyddiad yn ogystal â chymhellion yr unigolyn a ddrwgdybir.
Dywedodd Canghellor yr Almaen, Friedrich Merz, fod yr ymosodiad yn “ysgytwol” a diolchodd i’r gwasanaethau brys am “eu cymorth cyflym”.
Llun: ITV News/AP