Newyddion S4C

'Her fawr': Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn dathlu ei phen-blwydd yn 25

24/05/2025

'Her fawr': Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn dathlu ei phen-blwydd yn 25

Mae wedi bod yn her barhaus sicrhau dyfodol i Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru wrth iddi ddathlu ei phen-blwydd yn 25 oed meddai'r cyfarwyddwr.

Mae’n 25 mlynedd ddydd Sadwrn ers i'r ardd agor ei giatiau yn y flwyddyn 2000, a mae'r sefydliad yn barod i nodi “carreg filltir anhygoel” meddai'r cyfarwyddwr Dr Lucy Sutherland wrth Newyddion S4C

Ond dyw’r sefydliad ddim wedi bod heb ei heriau dros y 25 mlynedd diwethaf chwaith, meddai.

Mae'r ardd wedi wynebu ansicrwydd ariannol sawl tro ers agor yn 2000.

“Mae wedi bod yn her fawr ac un ‘da ni dal yn ceisio mynd i’r afael â nawr,” meddai.

“Sicrhau ein bod ni’n llwyddiannus yn fasnachol fel y gallwn ni glynu at ein hamcanion elusennol allweddol, a chael y cydbwysedd hwnnw’n iawn.” 

Er mwyn dathlu ei phenblwydd yn 25 ddydd Sadwrn, fe fydd tocynnau ar gael am yr un pris ag oedden nhw yn 2000. 

Fe all oedolion gael gafael ar docynnau am £6.50 ac fe allai plant fynd i mewn am £3. 

Fe fydd rhai cyn aelodau staff yn teithio o ben arall y byd – gan gynnwys o Seland Newydd – ar gyfer y dathliadau.

Dywedodd Dr Lucy Sutherland bod rhai o’r planhigion oedd wedi eu plannu yn 2000 wedi tyfu ochr yn ochr â’r ardd.

“Da ni’n cwrdd â phobl sydd efallai ddim wedi bod yma am sbel ac maen nhw wedi rhyfeddu gyda’r ffordd mae’r ardd wedi datblygu," meddai.

“Mae’n bwysig iawn, iawn fod Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn berthnasol i bobl Cymru ac mae hynny’n golygu ein bod ni’n gorfod newid a datblygu a deall yr hyn sydd ei angen ar draws y wlad.” 

'Pwysig’

Fe fydd dathliadau arbennig yn cael eu cynnal yn y gerddi ddydd Sadwrn a dydd Sul – a hynny i “ddathlu’r cannoedd” sydd wedi bod ynghlwm â’r holl waith yno dros y blynyddoedd hefyd.

Mae’r bobl sydd wedi bod, ac yn parhau i fod yn rhan o’r sefydliad yn greiddiol i’w llwyddiant, meddai Dr Sutherland. 

Prif nod Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru oedd cynnig rhywle y gall pobl gael eu “hysbrydoli” gan yr holl harddwch, meddai. 

Ond roedd y sefydliad hefyd wedi gwneud gwaith gwyddonol pwysig, gan gynnwys diogelu planhigion a blodau Cymru a’r gwaith ymchwil maent yn ei gwneud er lles a diogelwch natur ac amgylchedd y wlad.

Roedd gallu cynnig sywddi yn y diwydiant i bobl heb iddyn nhw orfod gadael Cymru yn rhan  “bwysig iawn” o’r hyn oedd yr ardd wedi ei gyflawni, meddai. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.