
Digwyddiad Lerpwl: Pedwar o blant ymhlith y rhai sydd wedi eu hanafu
Digwyddiad Lerpwl: Pedwar o blant ymhlith y rhai sydd wedi eu hanafu
Mae dyn wedi ei arestio ar ôl i gar daro yn erbyn pobl yn ystod gorymdaith i ddathlu tîm pêl-droed Lerpwl yn bencampwyr Uwch Gynghrair Lloegr.
Dywedodd Heddlu Glannau Mersi ei fod yn 53 oed, yn wyn, yn Brydeinig ac o ardal Lerpwl. Roedden nhw'n credu mai fe oedd gyrrwr y cerbyd.
Doedden nhw ddim yn trin y digwyddiad fel un terfysgol, medden nhw.
Fe darodd y car yn erbyn nifer o bobl ar Water Street ger canol y ddinas yn hwyr brynhawn Llun.
Fe gafodd nifer o bobl eu hanafu, gan gynnwys pedwar o blant, meddai'r heddlu. Mae 27 o bobl wedi eu cludo i'r ysbyty. Roedd dau berson, gan gynnwys un o'r plant, wedi dioddef anafiadau difrifol.
Roedd miloedd wedi ymgynnull ar strydoedd Lerpwl er mwyn cymryd rhan yn yr orymdaith.
Dywedodd un llygad-dyst, Harry Rashid, 48 oed, ei fod yn yr orymdaith gyda'i wraig a'i ddwy ferch ifanc pan welodd y gwrthdrawiad.
"Roedd yn hynod o gyflym," meddai.
"I ddechrau, fe wnaethon ni glywed sŵn pop, pop, pop wrth i bobl gael eu bwrw oddi ar flaen y car.
"Fe welais i bobl yn gorwedd ar y llawr, pobl yn anymwybodol. Roedd yn erchyll. Mor erchyll."
Mae llefarydd ar ran y Gwasanaeth Ambiwlans wedi cadarnhau bod criwiau wedi eu hanfon yno, wedi adroddiadau bod gwrthdrawiad yn y ddinas.
“Rydym yn asesu'r sefyllfa ac yn gweithio gydag aelodau eraill y gwasanaethau argyfwng. Ein blaenoriaeth yw sicrhau bod bobl yn cael y cymorth meddygol y maen nhw eu hangen cyn gynted â bo modd," meddai'r llefarydd.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Dinas Lerpwl: “Rydym yn cydlynu â Heddlu Glannau Mersi, mewn cysylltiad â digwyddiad ar Water Street yng nghanol y ddinas.”
Mae'r awdurdodau mewn cyswllt â Phrif Weinidog y Deyrnas Unedig a'r Ysgrifennydd Cartref, Yvette Cooper er mwyn eu diweddaru am y sefyllfa.
Mae Syr Keir Starmer wedi cyhoeddi fod y golygfeydd yn Lerpwl yn "echrydus ."
"Mae fy meddyliau gyda phawb sydd wedi eu hanafu," meddai.
Mae e hefyd wedi diolch i blismyn a'r gwasanaethau brys am eu hymateb sydyn, a dywedodd bod angen i'r heddlu gael amser i ymchwilio i'r hyn sydd wedi digwydd.
Mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd Clwb Pêl-droed Lerpwl eu bod nhw “mewn cysylltiad uniongyrchol â Heddlu Glannau Mersi ynghylch y digwyddiad ar Water Street”.
“Mae ein meddyliau a’n gweddïau gyda’r rhai sydd wedi cael eu heffeithio gan y digwyddiad difrifol hwn,” medden nhw.
“Byddwn yn parhau i gynnig ein cefnogaeth lawn i’r gwasanaethau brys a’r awdurdodau lleol sy’n delio â’r digwyddiad.”
Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan ei bod hi wedi ei "syfrdanu gan y golygfeydd erchyll yn Lerpwl heno".
"Mae fy meddyliau i, ynghyd â phawb yng Nghymru mae’n siwr, gyda'r rhai sydd wedi'u heffeithio," meddai.