
Cyhoeddi enillwyr cyntaf prif seremonïau Eisteddfod yr Urdd
Mae Eisteddfod yr Urdd wedi cyhoeddi enillwyr cyntaf ei phrif seremonïau ar faes yr ŵyl ddydd Llun.
Fe gafodd enillwyr y Fedal Gelf ac Ysgoloriaeth Artist Ifanc eu cyhoeddi yn y brif seremoni ar Lwyfan y Pafiliwn Gwyn am 14.00.
Lleucu Haf Thomas o Sir Benfro yw enillydd y Fedal Gelf, Dylunio a Thechnoleg a Chloe Swinburn o ranbarth Fflint a Wrecsam yw enillydd Ysgoloriaeth Artist Ifanc.
Mae Lleucu Haf Thomas yn 16 oed ac yn ddisgybl ym mlwyddyn 11 yn Ysgol Uwchradd Aberteifi. Yn gystadleuydd cyson efo’r Urdd yn yr adran Celf Dylunio Technoleg a Cherddoriaeth mae hi wrth ei bodd gyda phynciau celfyddydol mynegiannol. Mae ei darn buddugol wedi’i greu yn gyfan gwbwl o wair.
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/1926997359034069304
Dywedodd: “Rwy’n ymfalchïo fy mod yn ferch o gefn gwlad, a beth well na chreu celf allan o fyd natur. Rwy’n credu ei fod yn hanfodol bwysig i gadw’r traddodiadau hen yn fyw ac mor ddiolchgar i Aeres James o Sir Benfro am gyflwyno’r grefft o greu eitemau a phlethu llafur i mi nôl yn 2020.
"Rwyf bellach yn medru’r sgil anghyffredin yma sy’n rhoi pleser mawr i mi. Rwyf yn meddwl am syniad ac yn mynd ati i gynllunio, ei ddatblygu a’i greu dros oriau di-ri. Rwy’n cael gymaint o bleser mewn creu celf, ac mae’n fraint cael ennill y fedal yma ac i rannu fy ngwaith gyda phawb.”


Mae Chloe Swinburn, enillydd yr Ysgoloriaeth Artist Ifanc, yn 22 oed ac yn fyfyrwraig hŷn sy’n astudio Celf a Dylunio yng Ngholeg Cambria, Wrecsam. Ei huchelgais yw i barhau gyda’i hastudiaethau celf drwy fynd ymlaen i’r brifysgol i ddilyn gradd mewn darlunio, gyda’r gobaith o ddilyn gyrfa yn y byd celf.
Meddai Chloe: “Mae fy nhaith drwy addysg brif ffrwd wedi bod yn heriol oherwydd amgylchiadau personol cymhleth. O ganlyniad, bu’n rhaid i mi gymryd amser i ffwrdd o addysg, a dychwelais i Goleg Cambria yn 19 oed i ailsefyll fy TGAU.
"Mae fy mhenderfyniad i astudio celf a dylunio yn deillio o fy mherthynas bersonol â chelf, a'r gallu i fynegi'r hyn sy'n anodd ei gyfleu â geiriau; brwydr a wynebais wrth dyfu i fyny.
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/1927040297474699422
“Mae dilyn y rhaglen celf a dylunio sylfaen wedi caniatáu i mi wella fy ngallu i fynegi a darlunio straeon.
"Dwi wedi darganfod sawl artist sydd wedi ysbrydoli fy mhroses greadigol. Mae darlunwyr fel Angela Harding, Aubrey Beardsley, ac Arthur Rackham yn arbennig o arwyddocaol i mi; mae eu gwaith wedi fy annog i ymgorffori elfennau o adrodd stori a chyfansoddi yn fy ngwaith fy hun.”