Newyddion S4C

Neges Keir Starmer i fewnfudwyr ddysgu Saesneg 'ddim yn cyfleu realiti amlieithog' y DU

Syr Keir Starmer / Dr Gwennan Higham

Dyw neges Syr Keir Starmer i fewnfudwyr ddysgu Saesneg "ddim yn cyfleu realiti amlieithog" y DU, meddai arbenigwr ieithyddol.

Yn ddiweddar dywedodd Prif Weinidog y DU y dylai mewnfudwyr sydd eisiau byw yn y DU "allu siarad Saesneg".

Daw ei sylwadau ar blatfform X ac ychwanegodd bod y gallu i siarad Saesneg tra'n byw yn y DU yn "synnwyr cyffredin."

Ond dywedodd Dr Gwennan Higham, uwch ddarlithydd y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe, nad yw'r sylwadau yn "cyfleu realiti amlieithog" y DU.

Mae Dr Higham wedi cwblhau doethuriaeth ar ddysgu Cymraeg i fewnfudwyr ac yn gweithio ar brosiectau i ddarparu deunydd dysgu iddynt.

Wrth siarad â Newyddion S4C dywedodd bod y Gymraeg yn "cyfoethogi profiadau" pobl sydd yn dod o dramor i fyw yn y wlad.

“Yr un hen stori - bydden i wedi falle gobeithio gyda llywodraeth newydd y bydda' ‘na rhyw rethreg bach yn wahanol ond does dim byd newydd," meddai.

“Dwi’n trio dangos trwy fy ymchwil bod pobl eisiau gwneud rhywbeth gwahanol, bod nhw’n cael realiti amlieithog ac wrth gwrs mae Cymru yn wlad amlieithog, dyw'r neges ddim yn cyfleu hynny.

"Mae’n out of date.

“Mae’r Gymraeg yn cyfoethogi eu profiadau nhw, ac mae yna deimlad o berthyn. Hefyd mae buddiannau economaidd yn y byd gwaith ond yn fwy na hynny, y balchder a theimlo rhan o’u gwlad ac wedi integreiddio."

'Codi ymwybyddiaeth'

Mae addysg iaith yn rhan graidd o bolisi integreiddio Llywodraeth Cymru i fewnfudwyr.

Dan eu cynllun 'Cenedl Noddfa' bydd y llywodraeth yn "sicrhau bod pobl sy’n ceisio noddfa yn gallu manteisio ar gyfleoedd dysgu iaith a llythrennedd digidol," a hynny trwy'r Gymraeg pe bai nhw'n dewis.

Mae'r llywodraeth hefyd yn darparu cwrs Dysgu Cymraeg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (WSOL), sydd ar gael i fewnfudwyr, ond mae angen mwy o fuddsoddiad ynddi, meddai Dr Higham.

Yr hyn mae Gwennan Higham wedi darganfod trwy ei hymchwil yw bod galw gan fewnfudwyr i ddysgu'r Gymraeg pan maen nhw'n symud i Gymru.

“Roedd yr ymchwil yn dangos bod mewnfudwyr ag awydd mawr i ddysgu Cymraeg, ac mae darpariaeth Cymraeg ar gael i fewnfudwyr erbyn hyn," meddai.

“I fi, mae’n dyletswydd bod ni yng Nghymru yn codi ymwybyddiaeth y cynulleidfaoedd hyn am y Gymraeg.

“Ond s’dim digon o gyllid a buddsoddiad eto. Does dim digon o arian yn y sector i fuddsoddi yn yr addysg Gymraeg.

“Mae eisiau codi ymwybyddiaeth a ehangu’r maes mewn gwirionedd.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.