Carcharu Nathan Gill am 10 mlynedd a hanner am dderbyn arian gan Rwsia
Carcharu Nathan Gill am 10 mlynedd a hanner am dderbyn arian gan Rwsia
Mae cyn-arweinydd Reform UK yng Nghymru wedi ei garcharu am 10 mlynedd a hanner am am dderbyn llwgrwobrwyon gan Rwsia.
Cafodd ei ddedfrydu yn llys yr Old Bailey yn Llundain ddydd Gwener.
Roedd gweithgareddau Gill ar ran Rwsia yn cynnwys gwneud datganiadau o blaid Rwsia am ddigwyddiadau yn Wcráin yn Senedd Ewrop ac mewn erthyglau barn i gyhoeddiadau fel 112 Ukraine, dros gyfnod o chwe mis rhwng Rhagfyr 2018 a Gorffennaf 2019.
Cafodd Nathan Gill, sy'n 52 oed, ei eni yn Lloegr, ond symudodd ei deulu i Ynys Môn pan oedd yn blentyn. Aeth i Ysgol Gynradd Llannerch-y-medd ar yr ynys.
Roedd wedi bod yn ymwneud ag UKIP ers 2004 ac wedi gwasanaethu fel aelod o Senedd Ewrop yn enw'r blaid ac yn ddiweddarach i Blaid Brexit, o 2014 i 2020.
Roedd yn arweinydd Ukip Cymru rhwng 2014 a 2016, a gwasanaethodd hefyd fel aelod o Gynulliad Cymru am 18 mis rhwng 2016 a 2017.
'Tanseilio ymddiriedaeth'
Yn dilyn y ddedfryd, dywedodd Bethan David, Pennaeth Gwrthderfysgaeth Gwasanaeth Erlyn y Goron: “Mae derbyn llwgrwobrwyon gan ddinasyddion tramor i ddylanwadu ar drafodion seneddol yn tanseilio ymddiriedaeth y cyhoedd a gweithrediad priodol y llywodraeth.
“Mae Nathan Gill wedi cyfaddef ei fod yn gwybod bod yr hyn yr oedd yn ei wneud yn anghywir, a dim ond oherwydd ymadawiad y DU o’r Undeb Ewropeaidd y daeth ei weithgareddau i ben, gan ei ddileu o swydd ddefnyddiol i’r rhai a geisiodd ddylanwadu arno.
“Mae swydd gyhoeddus yn swydd o ymddiriedaeth, ac mae ei weithredoedd yn cynrychioli torri’r ymddiriedaeth honno’n ddifrifol, mae ei ddedfrydu heddiw yn dangos difrifoldeb hynny.”
Yn ystod y gwrandawiad dedfrydu fore Gwener, dywedodd yr erlynydd Mark Heywood fod troseddau Gill wedi dod i'r amlwg wedi iddo gael ei stopio ym maes awyr Manceinion ar 13 Medi 2021 ac fe gafodd ei ffôn ei gymryd oddi arno, er mwyn ei archwilio.
Wedi'r archwiliad o'r ffôn, fe gafodd negeseuon Whatsapp eu darganfod rhwng Gill ac Oleg Voloshyn, 44, sy'n swyddog llywodraeth Wcráin, o blaid Rwsia cyn 2014.
Dywedodd Mr Heywood: "Mae'r cyfathrebu rhwng y ddau ddyn yn dangos fod perthynas sefydledig yn bodoli rhyngddynt."
Roedd y negeseuon WhatsApp rhwng y ddau yn cynnwys cyfeiriadau at "anrhegion Nadolig", "cardiau post" a "5K" a oedd yn gyfeiriad at daliadau, meddai Mr Heywood.
Ar adeg y troseddau, roedd Gill yn aelod o Senedd Ewrop, wedi iddo gael ei ethol yn wreiddiol ar gyfer plaid UKIP.
Fe wnaeth barhau yn aelod etholedig o Senedd Ewrop tan i'r DU adael yr undeb yn 2020.
Fe adawodd Gill y llys, gyda swyddogion diogelwch yn ei hebrwng i gelloedd yr Old Bailey er mwyn dechrau ei ddedfryd.