O Frwsel i'r Old Bailey - cwymp syfrdanol Nathan Gill
Mae'n gwymp gwleidyddol sydd heb ei debyg ers dros hanner canrif.
Wrth i Nathan Gill wynebu carchar ddydd Gwener am dderbyn llwgrwobrwyon gan Rwsia tra'r oedd yn aelod o Senedd Ewrop, mae ei ran mewn sgandal o'r fath yn stori ryfeddol am ddiwedd dramatig i yrfa wleidyddol.
Cafodd ei eni yn Lloegr, ond symudodd ei deulu i Ynys Môn pan oedd yn blentyn. Aeth i Ysgol Gynradd Llannerch-y-medd ar yr ynys.
Mae cwymp Gill bron a bod yn unigryw yn hanes gwleidyddiaeth fodern, ac eithrio efallai cwymp John Stonehouse, yr aelod seneddol Llafur, a ffugiodd ei farwolaeth ei hun ym 1974 wrth i'w fusnes ddadfeilio.
Ond fe fydd cywilydd cyhoeddus Gill, sy'n 52 oed ac yn dad i bump o blant, yn yr Old Bailey yn ddiweddarach yn gwahodd craffu anghyfforddus ar Reform UK a'i arweinydd, Nigel Farage, a fu unwaith yn gweithio gydag ef ym Mrwsel.
Mewn cyfweliad diweddar, disgrifiodd Mr Farage Gill fel "afal drwg" a dywedodd ei fod wedi'i "syfrdanu" ar ôl i'w gyn-gydweithiwr ym mhlaid Ukip ac arweinydd Reform UK Cymru gyfaddef wyth cyhuddiad o lwgrwobrwyo.
Dywedodd Mr Farage: “Gall unrhyw blaid wleidyddol ddod o hyd i bob math o bobl ofnadwy yn eu mysg.
“Mae (achos) Gill yn arbennig o syfrdanol oherwydd roeddwn i’n ei adnabod fel Cristion duwiol, person oedd yn byw bywyd glân iawn, a gonest.
“Felly rwy’n synnu’n fawr. Ond wyddoch chi, roedd hwnna’n gyfnod gwahanol. Fi yw’r unig un (yn y Reform) a oedd yn ei adnabod mewn gwirionedd, yn mynd yn ôl yn bell.”
Ychwanegodd AS Clacton: “Ni allwch byth, byth warantu 100% bod pawb rydych chi’n cwrdd â nhw yn eich bywyd, rydych chi’n ysgwyd llaw â nhw yn y dafarn, yn berson da.”
Rwsia
Roedd gweithgareddau Gill ar ran Rwsia yn cynnwys gwneud datganiadau o blaid Rwsia am ddigwyddiadau yn Wcráin yn Senedd Ewrop ac mewn erthyglau barn i gyhoeddiadau fel 112 Ukraine, dros gyfnod o chwe mis rhwng Rhagfyr 2018 a Gorffennaf 2019.
Mae Gill yn aelod selog o'i eglwys ac am chwe blynedd fe wasanaethodd fel esgob Mormonaidd.
Mae ei ddiddordebau'n cynnwys hanes y Rhyfel Byd Cyntaf, darllen, a garddio.
Ar ôl coleg, aeth i weithio i'r busnes teuluol, gan ddarparu gofal i'r henoed, cyn mynd i fyd gwleidyddiaeth.
Roedd Gill wedi bod yn ymwneud ag Ukip ers 2004 ac wedi gwasanaethu fel aelod o Senedd Ewrop i'r blaid ac yn ddiweddarach i Blaid Brexit, o 2014 i 2020.
Roedd yn arweinydd Ukip Cymru rhwng 2014 a 2016, a gwasanaethodd hefyd fel aelod o Gynulliad Cymru am 18 mis rhwng 2016 a 2017.
Pan adawodd Fae Caerdydd, disgrifiodd AS Plaid Cymru Llyr Gruffydd Mr Gill fel "ffigwr absennol i raddau helaeth" yn y Senedd.
"Mae ei amser yn y Cynulliad wedi cael ei ddominyddu gan ddadleuon mewnol a arweiniodd yn y pen draw at ei ddiswyddo fel arweinydd grŵp Ukip," meddai.
"Rwy'n amau, yn hytrach na chael ei gofio fel AC cyntaf Ukip, na fydd yn cael ei gofio o gwbl."
Llun: PA
