'Cyfnod cyffrous i addysg Gymraeg Sir y Fflint' ar ôl agor adeilad newydd i ysgol ar y ffîn
Wrth i niferoedd disgyblion mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg godi yn Sir y Fflint, mae'n "gyfnod cyffrous i addysg Gymraeg" yn y sir yn ôl prifathrawon lleol.
Gyda'r niferoedd ar gynnydd mae’r awdurdod lleol newydd adeiladu'r adeilad pwrpasol cyntaf ar gyfer ysgol gynradd Gymraeg yn y sir.
A hithau wedi dathlu ei 60 mlwyddiant eleni, fe symudodd Ysgol Croes Atti i’w chartref newydd ger Y Fflint ychydig wythnosau’n ôl.
Mae'r awdurdod hefyd wedi cadarnhau eu bwriad i agor ysgol Gymraeg newydd yn ardal Bwcle.
Mae Pennaeth Ysgol Croes Atti, sydd wedi bod yn ganolog wrth siapio’r adeilad newydd, yn fodlon iawn gyda’r cyfleusterau newydd ar gyfer ei ysgol.
“Mae pawb wedi gwirioni’n lân, a be’ sydd wedi taro ni, mae o fatha bod y plant wedi bod yma erioed.” meddai Mr Jones.
“O’r eiliad cyntaf ddaethon nhw fewn drwy’r drws roedden nhw’n gwybod yn union lle i fynd, beth oedd yna a sut i ymddwyn. Mae o wedi bod yn wych” ychwanegodd.
'Brwydr'
Mae ‘na le i 210 o ddisgyblion yn yr adeilad newydd, ond yn ôl y pennaeth, mae dosbarth meithrin yr ysgol eisoes yn orlawn, ac mae’r adeilad newydd yn cynnwys cynlluniau ar gyfer ehangu'r pe tai angen gwneud hynny.
“Yn sicr mae ‘na dŵf yn lleol ac mae’r frwydr dros y Gymraeg yn gryf yma’n Sir y Fflint hefyd," meddai Gwyn Jones.
“‘Den ni’n deulu bychan o ysgolion Cymraeg ond mae’r awdurdod addyg lleol efo’n cefnau ni. Mae nhw isio i ni lwyddo, mae nhw isio i ni ffynnu.
“Rwan ‘den ni’n medru codi’r bar oherwydd yr adnodd sydd gynno ni yma.
Fe ddechreuodd yr ysgol yn gyntaf fel ffrwd meithrin iaith Gymraeg yn Ysgol Heol Caer, Y Fflint, a hynny yn 1964 o dan arweiniad Mair Richards, ac mae un adeilad ar safle’r ysgol newydd wedi ei enwi ar ôl y pennaeth cyntaf 'Tŷ Mair'.
Mae’r adeilad hwn yn gartref i ganolfan trochi disgyblion, cylch meithrin ac ystafell gymunedol ar gyfer amrywiol weithgareddau yn ymwneud â’r iaith.
Fe aeth Gwyn Jones ymlaen i ddweud: “Mae rhai o’r disgyblion meithrin cychwynol yna yn dal i fod mewn cyswllt efo ni fel ysgol.
“Be’ ddaru Mair sefydlu oedd yr awch a’r awydd ymhlith rhieni di-Gymraeg ar y pryd, bod nhw isio addysg Gymraeg i’w plant.
“Ddaru Mair ddim gweld yr adeilad newydd. Ond be’ mae hi wedi gadael i ni ydy’r weledigaeth o’r Gymraeg o’r crud i’r bedd.”
'Cynyddu'
Yn gartref i un o’r ysgolion uwchradd penodedig iaith Gymraeg cyntaf trwy’r wlad, Ysgol Maes Garmon yn Yr Wyddgrug, mae gan Sir y Fflint le pwysig yn hanes datblygiad addysg Gymraeg.
Un o gyn-ddisgyblion Ysgol Croes Atti ac Ysgol Maes Garmon, Bronwen Hughes, ydy pennaeth presennol yr ysgol uwchradd honno.
Mae’n dweud bod pethau’n "gadarnhaol i addysg Gymraeg" yn yr ardal ar hyn o bryd.
“O ran tueddiadau, mae ’na gynnydd yn nifer y disgyblion sy’n dymuno astudio trwy gyfrwng y Gymraeg.
“Tra bod poblogaeth ysgolion cynradd mewn nifer o siroedd yn gostwng, yn Sir y Fflint mae’r niferoedd sy’n dymuno astudio yn Gymraeg yn dal ei dir os nad yn cynyddu” meddai.
Mae'r Cyngor Sir yn dweud eu bod yn disgwyl y bydd cyfanswm disgyblion y chwe ysgol gynradd iaith Gymraeg bresennol, 100 o ddisgyblion yn fwy ymhen pum mlynedd.
Bum mlynedd yn ôl fe ddwedodd arweinydd y cyngor ar y pryd, Y Cynghorydd Ian Roberts, y byddai ysgol Gymraeg newydd yn cael ei hagor yn ardal Bwcle erbyn eleni.
Y Cynghorydd Mared Eastwood sy’n gyfrifol am addysg ar y cyngor ar yn o byrd ac mae’n dweud eu bod yn edrych ar y posibilrwydd o ddefnyddio un o ddau adeilad sydd wedi eu gadael yn wag wrth uno dwy ysgol ddi-Gymraeg yn ddiweddar mewn adeilad newydd.
“Bydd rhaid i ni wneud feasability study i weld pa safle sydd orau i’r ysgol newydd.
“Den ni’n dal yn gweithio amdani ac mae’r llywodraeth wedi ein cefnogi ni hefyd” ychwanegodd Y Cyng. Eastwood.