'Cadw enw Emrys yn fyw': Cwpl a gollodd eu babi yn rhannu eu stori i helpu eraill
'Cadw enw Emrys yn fyw': Cwpl a gollodd eu babi yn rhannu eu stori i helpu eraill
Rhybudd: Mae'r erthygl ganlynol yn trafod colli plentyn.
Mae cwpl a gollodd eu mab wyth diwrnod oed y llynedd yn rhannu eu stori mewn apêl newydd yn y gobaith o gynnig cymorth i eraill sy'n wynebu sefyllfa debyg.
Bu farw mab Gwenno George a Luke Nicholas, Emrys Arthur, yn wyth diwrnod oed ar 14 Mawrth 2024, ar ôl cael ei eni'n gynnar wedi 25 wythnos.
"Ddoth Emrys i’r byd ar y 6ed o Fawrth 2024 yn 25 wythnos oed. Oedd o mor fach, oedd o’n 804 gram, ond oedd o’n gorgeous ymhob ffordd," meddai mam Emrys, Gwenno George wrth Newyddion S4C.
"Mewn ffordd, oedd o fatha wyth diwrnod gora’ ein bywydau ni achos gafon ni gyfarfod a bod efo Emrys, ond hefyd yn amlwg oeddan nhw yr wyth diwrnod anoddaf hefyd ‘dan ni ’di mynd drwyddyn nhw.
"Ddaru ni wirioni a disgyn mewn cariad yn syth bin."
Ychwanegodd tad Emrys, Luke Nicholas: "A wedyn dros y cyfnod o wyth diwrnod, roedd cyfle i aelodau teulu i ymuno a chwrdd â fo, ac ymweld â fo, oedd yn brofiad hyfryd mewn ffordd yn y ‘sbyty.
"Roedd 'na llwyth o wybodaeth i gymryd i fewn, gwybodaeth feddygol a meddwl am ddyfodol Emrys ag oedd 'na lot o ansicrwydd o gwmpas hynny am ba fath o fywyd fyddai Emrys yn ei gael os unrhyw beth o gwbl felly roedden ni jyst yn wynebu pob dydd un dydd ar y tro."
Mae Gwenno a Luke, sydd yn byw yng Nghaerdydd, wedi penderfynu rhannu eu stori fel rhan o apêl newydd Hosbis Plant Tŷ Hafan, a'r nod yw i godi £400,000 mewn 60 awr ar ran yr elusen.
Fe fydd y rhoddion a fydd yn cael eu gwneud yn yr apêl o fewn y 60 awr, a fydd yn dechrau am 10:00 ddydd Sul 23 Tachwedd ac yn gorffen am 22:00 ddydd Mawrth 25 Tachwedd yn cael eu dyblu diolch i gronfa arian gyfatebol sydd wedi ei chreu gan yr elusen.
Ganwyd Emrys wedi taith IVF hir.
"Ma' unrhyw daith IVF yn daith hir, mi fuon ni'n lwcus efo'n profiad ni hefyd dwi'n teimlo yn gw'bod bod rhei pobl wedi stryglo a wedi gorfod mynd drwy dorcalon ar ôl torcalon i gyfarfod eu baban bach," meddai Gwenno.
"Gafon ni ofal gwych gan y clinig ym Mhort Talbot a mi fyddan ni o hyd yn ddiolchgar iddyn nhw am fod wedi rhoi Emrys i ni."
Fe ddywedodd Pennaeth Codi Arian Tŷ Hafan, Dan Bamsey, fod y galw am wasanaethau gan gynnwys cwnsela wedi bron â dyblu.
"Cafodd 21 o fabanod 28 diwrnod oed ac iau eu cyfeirio atom yn 2023/2024, a 39 yn 2024/2025. Ac yn ystod chwe mis cyntaf eleni, rydyn ni eisoes wedi cael 22 o atgyfeiriadau," meddai.
Ychwanegodd Gwenno: "Ma’r galw ar gyfer y cymorth yn cynyddu, felly pan nath Tŷ Hafan holi ni os fysa ni’n fodlon rhannu ein stori ni, o’n i’n teimlo fel bod ‘na gyfle i ni roi rhywbeth yn ôl iddyn nhw ar ôl i ni fod wedi derbyn gymaint ganddyn nhw.
"O'n i’n teimlo bo’ nhw wedi rhoi cyfle sbeshial i ni hefyd i rannu stori Emrys ac i gadw enw Emrys yn fyw hefyd."
Mae Gwenno a Luke hefyd wedi cael cwnsela drwy Tŷ Hafan, ac er yn anodd, mae Gwenno yn pwysleisio ei bod hi'n hynod bwysig i rannu eu profiad nhw a siarad gyda phobl eraill amdano.
"Ma' cael cynnig cwnsela ar ôl be' ma' rywun wedi bod drwydda fo mor, mor bwysig. Ma'n hawdd byw yn dy fywyd dy hun," meddai.
"'Dan ni ddim yn cael deud ei enw fo lot, a 'dan ni ddim yn cael siarad am be' ma'n mab ni yn gwneud rwan yn anffodus iawn ond 'dan ni yn gallu siarad am be na'th o yn yr wyth diwrnod yna, i ni o ran sut ma' 'di newid ein bywyd ni, mae o tu hwnt bron felly o'n i'n teimlo bod o'n bwysig i ni gael y cyfle i rannu ein stori a rhoi rhywbeth yn ôl i Tŷ Hafan.
"Dwi'n gobeithio drwy rannu ein stori ni y byddwn ni'n gallu helpu o leiaf un teulu arall neu gwpl arall sydd yn gorfod gwynebu dyfodol gwahanol iawn i be oeddan nhw wedi obeithio."
Mae'r cwpl hefyd yn annog eraill i beidio bod ofn siarad gyda nhw am Emrys.
"Ma’ rhannu mor bwysig a gallu siarad hefyd, a gallu jyst rhannu stori Emrys," meddai Gwenno.
"‘Dan ni’n siarad am Emrys bob diwrnod, does ‘na ddim eiliad o’r dydd yn mynd heibio nad ydw i’n meddwl amdana fo, ond mae o mor neis gallu rhannu ei stori fo, a bod pobl yn gw’bod bod o’n iawn i siarad am Emrys, a bo’ ni wrth ein boddau yn cael siarad amdana fo."
Fe gafodd Gwenno a Luke gefnogaeth Tŷ Hafan i anfon corff eu mab i dref enedigol Gwenno, Cricieth yng Ngwynedd.
Dywedodd Gwenno: "O'n i'n gw'bod bo' fi isio mynd ag Emrys i Gricieth. Ma'r fynwent mor heddychlon, mae o'n agos at lle ges i fy magu, lle ma' fy rhieni i dal yn byw, a fan 'na lle ma' fy neiniau a fy nheidiau i.
"'Ddaru ni gael y cyfle sbeshial iawn o gael teithio efo Emrys i fyny'r A470, a fysa hynny heb fod yn bosib o gwbl heb y cymorth gafon ni gan Tŷ Hafan."
Ychwanegodd Luke: "Doeddem ni ddim yn meddwl fod y peth yn bosib o gwbl, o'dd y logistics yn edrych yn anodd iawn i drefnu ond wedyn dyna lle naeth Tŷ Hafan ddod i mewn i gefnogi.
"Ma' Cricieth yn lle sbeshial, a 'dan ni'n gw'bod bod Emrys yn saff yna," meddai Gwenno.
Os ydych chi wedi eich heffeithio gan gynnwys yr erthygl, mae cymorth ar gael yma.
