Cymeriad Bluey yn glanio ym Maes Awyr Caerdydd ar gyfer cyfres newydd i S4C
Cymeriad Bluey yn glanio ym Maes Awyr Caerdydd ar gyfer cyfres newydd i S4C
Fe seren y gyfres boblogaidd i blant, Bluey wedi glanio ym Maes Awyr Caerdydd ar gyfer cyfres newydd fydd yn ymddangos ar S4C.
Fe fydd fersiwn Gymraeg o’r gyfres fyd-eang lwyddiannus yn dod i S4C ar 30 Rhagfyr eleni fel rhan o raglenni plant Cyw.
Fe gafodd y gyfres Bluey, sy'n seiliedig ar y ci Blue Heeler, ei chreu gan Joe Brumm, a’i chynhyrchu gan gwmni o Awstralia, Ludo Studio.
I lansio’r gyfres newydd, o’r enw 'Blŵi', fe gafodd y cymeriad ei chroesawu i Faes Awyr Caerdydd gan ddisgyblion Blwyddyn 2 Ysgol Gymraeg Sant Baruc, sydd gerllaw yn y Barri, yn ogystal â chyflwynwyr Cyw, Griff a Dafydd.
Dywedodd Sioned Geraint, Comisiynydd Addysg a Phlant S4C: “Dwi wrth fy modd bod Blŵi wedi cyrraedd Cymru i groeso cynnes Cymreig.
“Mae ei dyfodiad hi wedi bod yn rhywbeth mae ein gwylwyr ifanc wedi’i ddisgwyl ers amser maith ac mae’r cyffro ei bod hi yma o’r diwedd yn rhywbeth y byddaf fel comisiynydd yn ei drysori.”
Ychwanegodd Cecilia Persson, Rheolwr Gyfarwyddwr, Plant a Theuluoedd yn BBC Studios: "Mae straeon chwareus a chalonnog y sioe yn cysylltu â theuluoedd ym mhobman, ac mae'n wych bod gwylwyr yng Nghymru bellach yn gallu mwynhau Bluey yn eu hiaith eu hunain.”
Yn dilyn ei ymddangosiad cyntaf yn Awstralia yn 2018, mae Bluey wedi ennill miliynau o gefnogwyr ledled y byd ac mae bellach yn un o'r cyfresi teledu animeiddiedig sy'n cael ei gwylio fwyaf yn fyd-eang.
Mae'r gyfres, sydd wedi ennill Gwobr Emmy a BAFTA, yn cael ei darlledu mewn dros 140 o wledydd ac yn 2024, y gyfres Saesneg Bluey oedd y gyfres a wyliwyd fwyaf ledled y byd ar Disney+.
