Cytundebau masnach yn 'hwb i ffermwyr Cymru' medd Starmer
Bydd ffermwyr yng Nghymru yn gallu allforio cynnyrch cig i'r Undeb Ewropeaidd yn sgil cytundebau masnach diweddar gyda UDA, India a'r UE yn ôl Syr Keir Starmer.
Bydd cyfarfod Cyngor y Gwledydd a’r Rhanbarthau yn cael ei gynnal yn Llundain ddydd Gwener, gan ddod ag arweinwyr gwleidyddol Cymru, Yr Alban, Gogledd Iwerddon, Lloegr a meiri rhanbarthol Lloegr ynghyd.
Dyma'r ail dro i'r cyfarfod gael ei gynnal, ers iddo gael ei sefydlu gan y Llywodraeth Lafur.
Ychwanegodd Syr Keir Starmer y bydd cytundebau masnach gyda UDA, India a'r UE yn "gwella bywoliaethau" ar draws y DU.
Fe fydd y "cytundebau masnach yn sicrhau diogelwch tymor-hir" i bobl yn ôl Syr Keir.
“Byddant yn creu cyfleoedd ar gyfer masnach fwy di-dor ac yn denu buddsoddiad mewnol i dyfu’r economi, gan wneud gwahaniaeth i fywydau pobl," ychwanegodd.
Nid pawb sydd yn fodlon gyda chytundeb diweddar y llywodraeth gyda'r UE, gyda Reform UK a'r Ceidwadwyr yn dadlau ei fod yn tanseilio pleidlais Brexit ac yn peryglu dyfodol y diwydiant pysgota.
Dywedodd y Prif Weinidog fod cytundeb a gafwyd mewn uwchgynhadledd yn Llundain ddydd Llun yn fuddugoliaeth i’r ddwy ochr, ac yn ddechrau “cyfnod newydd” yn y berthynas rhwng y DU a’r UE.
Bydd y cytundeb yn caniatáu i fwy o deithwyr o Brydain ddefnyddio e-giatiau pasbort wrth fynd ar wyliau i Ewrop, tra bydd ffermwyr yn cael mynediad cyflymach a haws i fasnachu ar y cyfandir o ganlyniad i gytundeb ar safonau cynnyrch anifeiliaid a phlanhigion.
Daw'r cytundeb wedi cytundeb masnach gydag India a fydd yn ei gwneud hi'n haws i gwmnïau o'r DU i allforio wisgi, ceir a chynnyrch eraill i'r wlad, yn ogystal â thorri trethi ar allforion dillad ac esgidiau India.
Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi sicrhau cytundeb gydag Arlywydd UDA Donald Trump i leihau tariffau ar rai nwyddau sy'n cael eu masnachu rhwng y gwledydd.