Newyddion S4C

Galw am weithredu ‘holl argymhellion’ adroddiad ar warchod y Gymraeg yn ei chadarnleoedd

Galw am weithredu ‘holl argymhellion’ adroddiad ar warchod y Gymraeg yn ei chadarnleoedd

Sut mae gwarchod y Gymraeg yn ei chadarnleoedd fel Pen Llŷn.

Deg mis ar ôl y cyhoeddiad y Comisiwn Cymunedau Cymraeg cafodd ei ffurfio i ateb y cwestiwn hwnnw mae galw am weithredu'r argymhellion yn llawn ac ar frys.

“Mae pobl Cymru am wybod os yw'r Llywodraeth am fabwysiadu'r argymhellion yn llawn neu'n rhannol.

"Mae angen gweithredu ar yr argymhellion yna ar frys."

Mae addysg, iechyd, yr economi a chynllunio dan y chwyddwydr.

Yn ardaloedd fel Dinas, ger Caernarfon lle bu'r iaith yn rhan o ddadl am ddatblygiad tai mae galw am arweiniad cliriach.

"Mae wir angen mabwysiadu'r argymhellion yn yr adroddiad er lles yr iaith a'n cymunedau Cymraeg."

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio ar draws y Llywodraeth i ymateb i'r argymhellion.

Bydd Ysgrifennydd y Gymraeg, Mark Drakeford yn ymateb yn Eisteddfod yr Urdd.

Mae cynllunio a datblygiadau tai newydd wrth galon gwaith y comisiwn.

Cynllunwyr o bob ran o Wynedd yn cwrdd i drafod galwadau sy'n cynnwys cryfhau a diwygio canllawiau a'u heffaith ar yr iaith.

"'Dan ni'n arbennig o dda yng Nghymru am wneud camau brys ym maes addysg ac iechyd o safbwynt yr iaith.

"Mae bwlch anferthol yn dal i fod ar hyn o bryd o safbwynt cynllunio.

"Dydyn ni ddim wedi gwneud digon o waith yn y maes i sicrhau bod y gyfraith a'r polisi yn briodol ar gyfer yr heriau mae cymunedau Cymraeg yn wynebu.

"Ymdrech ydy'r drafodaeth sy'n digwydd ar hyn o bryd i sicrhau fod y drafodaeth o'r un safon a'r un 'dan ni'n cael wrth drafod y Gymraeg mewn perthynas ag addysg ac iechyd."

Mae argymhellion radical dan sylw fel creu ardaloedd o arwyddocad ieithyddol dwysedd uwch lle mae canran uchel o siaradwyr Cymraeg.

Hefyd, trin cadarnleoedd y Gymraeg yn debyg i ardaloedd cadwraeth wrth ystyried ceisiadau cynllunio.

"Pobl sy'n siarad iaith ar ddiwedd y dydd.

"'Dan ni'n son am yr ymylon lle mae datblygiad newydd mewn cymuned a sut i gadw'r cydbwysedd rhwng hyrwyddo datblygiad y gymuned a pharchu a gwarchod yr iaith Gymraeg."

Cam nesa'r comisiwn fydd edrych ar y Gymraeg mewn cymunedau lle mae canran y siaradwyr yn is na 40%.

"Mae angen cydnabod yn y mannau lle nad oes 40% o siaradwyr Cymraeg bod y Gymraeg yn dal i fod yn bwysig ac yn bwysicach mewn pocedi."

Yn Eisteddfod yr Urdd, bydd Mark Drakeford yn cael llwyfan.

Cawn weld a fydd ei ymateb i adroddiad y Comisiwn Cymraeg yn plesio'r beirniaid!

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.