
Cytundeb Ynysoedd Chagos i fynd yn ei flaen ar ôl codi gwaharddeb llys
Mae gwaharddeb llys dros dro a oedd yn rhwystro Llywodraeth y DU rhag cwblhau ei thrafodaethau ar gytundeb Ynysoedd Chagos wedi cael ei chodi, meddai barnwr yr Uchel Lys.
Roedd disgwyl i'r cytundeb gael ei arwyddo fore Iau, ond cafodd ei rwystro dros dro gan waharddeb oriau ynghynt.
Fel rhan o'r cytundeb byddai Prydain yn trosglwyddo yr Ynysoedd Chagos i Mauritius.
Byddai hefyd yn galluogi Prydain i brydlesu canolfan filwrol hanfodol ar yr archipelago am 99 mlynedd.
Fe wnaeth Mr Ustus Goose ganiatáu'r waharddeb yn erbyn y Swyddfa Dramor am 02.25 ddydd Iau.
Y bwriad oedd rhoi "rhyddhad interim" i Bertrice Pompe, un o ddwy ddynes o Brydain a gafodd ei geni ar Ynysoedd Chagos.
Roedd hynny oherwydd ei bod hi wedi cymryd camau i ddwyn achos cyfreithiol yn erbyn y cytundeb.

Ar ôl gwrandawiad brys ddydd Iau, dywedodd Mr Ustus Chamberlain y dylid codi'r waharddeb.
"Rwyf wedi dod i’r casgliad y dylai’r arhosiad a roddwyd gan Mr Ustus Goose gael ei ryddhau ac na ddylai fod unrhyw ryddhad interim pellach," meddai.
Ychwanegodd yn ddiweddarach: "Byddai budd y cyhoedd a buddiannau’r Deyrnas Unedig yn cael eu niweidio’n sylweddol wrth ganiatáu neu barhau gyda'r rhyddhad interim, ac mae’r materion hyn yn darparu rheswm budd cyhoeddus cryf yn erbyn parhad rhyddhad interim."
Mae'r llywodraeth wedi croesawu'r dyfarniad, gan ddweud bod y cytundeb yn "hollbwysig i amddiffyn pobol Prydain a’n diogelwch cenedlaethol".
Dywedodd Arweinydd Tŷ’r Cyffredin, Lucy Powell, fod disgwyl i’r Ysgrifennydd Amddiffyn, John Healey, wneud datganiad yn Nhŷ’r Cyffredin ddydd Iau am "ddyfodol canolfan filwrol Diego Garcia".
Dywedodd Ms Powell y byddai’r datganiad yn cael ei gynnal "yn ôl pob tebyg ar ddiwedd busnes", fyddai’n awgrymu amser cychwyn o 17.00.
Yn ystod y gwrandawiad, dywedodd Mr Ustus Chamberlain: "Gall y cytundeb gael ei gwblhau heddiw ac nid oes rhaid iddo fod am 9.00 o reidrwydd."
Yna gofynnodd i Syr James Eadie KC, ar ran y Swyddfa Dramor, os "oes dal modd i'r cytundeb gael ei gwblhau os bydd yn cael ei gwblhau heddiw".
Fe wnaeth Syr James gadarnhau mai dyna oedd yr achos.
"Fy nghyfarwyddiadau gan Rif 10 yw bod angen penderfyniad erbyn 13.00 heddiw os ydym am lofnodi heddiw."