Newyddion S4C

Mis Ymwybyddiaeth Coeliag: Annog pobl i wirio symptomau a mynd am brofion

21/05/2025

Mis Ymwybyddiaeth Coeliag: Annog pobl i wirio symptomau a mynd am brofion

Deng mlynedd yn ol cafodd Ela Pari Huws ddiagnosis o glefyd coeliac ar ôl cael cyfnod anodd gyda'i symptomau wrth ddechre'r brifysgol.

"O'n i efo dim egni o gwbl.

"O'n i'n syrthio i gysgu drwy'r amser yn enwedig ar ôl cinio.

"O'n i mewn neuadd lle roedd bwyd yn cael ei ddarparu.

"Bob amser cinio, bydden i'n mynd ac wedyn ddim yn gallu mynd i ddarlithoedd yn y prynhawn.

"Oedd o ddim fel fi o gwbl.

"Yr un peth wedyn efo cymdeithasu, o'n i'n gweld o'n anodd achos o'n i jyst 'di blino drwy'r amser.

"Y peth arall oedd problemau stumog.

"Oedd dim patrwm, ond oedd o wastad ddim yn iawn."

Mae clefyd coeliac yn gyflwr hunan-imiwn sy'n effeithio 1 mewn 100 o bobl yng Nghymru.

Pan mae coeliac yn bwyta glwten mae'n niweidio'r villi yn y coluddyn bach a'r corff yn ymosod ar ei hun.

Gall hyn arwain at gymhlethdodau difrifol iawn os nad yw'n cael ei drin.

Yr unig driniaeth yw deiet llym, di-glwten am oes.

Mis yma mae elusen Coeliac UK yn annog pobl i ofyn ai clefyd coeliac yw hwn wrth wneud hunan-asesiad am ddim ar wefan yr elusen.

Gall pobl wirio'n gyflym a ydyn nhw'n profi symptomau sy'n gysylltiedig a chlefyd coeliac ac a ddylen nhw gael eu profi ymhellach am y clefyd.

"Mae Coeliac UK yn charity gwych.

"Mae'r tudalennau ar y we yn wych ac yn helpu cleifion sy'n deall clefyd coeliac a mae'r self-assessment too yn syniad gwych.

"Y peth rili pwysig yw ddim newid y diet nes bod y profion ar ben a'r diagnosis yn sicr."

I Ela, mae'n bwysig peidio dibynnu ar y prawf yn lle mynd at ddoctor.

"Mae'n gyfle i rywun gymryd cam cyntaf a chael syniad o bosib ai dyna sydd ganddyn nhw.

"Y realiti ydy mae digon o symptomau coeliac yn gyffredin i glefydau eraill hefyd.

"Fel bob dim, mynd at y doctor ddylai'r cam cyntaf fod."

Y nod yw codi ymwybyddiaeth am y clefyd sy'n gyffredin erbyn hyn er mwyn sicrhau bod digon o gymorth i coeliacs ar hyd a lled y wlad.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.