Newyddion S4C

Stori ganser Lowri yn Rownd a Rownd wedi ei selio ar brofiad real

Heno Newydd 2025

Stori ganser Lowri yn Rownd a Rownd wedi ei selio ar brofiad real

Mae stori cymeriad Lowri Parry o gael canser y fron yn y gyfres deledu Rownd a Rownd wedi ei selio ar stori dynes aeth trwy'r profiad ei hun.

Ar hyn o bryd mae Lowri, sydd yn gweithio yn y salon, yn cael triniaeth ganser ar ôl darganfod lwmp yn ei bron ar y gyfres opera sebon.

Yn ôl yr actores Lowri Gwynne sydd yn portreadu’r cymeriad roedd hi’n bwysig i’r tîm cynhyrchu ac iddi hi wneud gwaith ymchwil i’r pwnc. 

Roedd pawb yn awyddus i gyfleu'r stori mewn ffordd "sensitif a gonest". 

“Fe wnaethon ni gychwyn efo’r storïwyr. Oeddan nhw yn lwcus iawn i gael cydweithrediad Nia Elain sydd wedi bod yn ymgynghori ni," meddai wrth siarad ar raglen Heno.

"Mae Nia wedi cael canser y fron ei hun felly does 'na neb yn dallt y pwnc yn well na hi. Felly mae stori Lowri wedi selio ar stori Nia."

Mae Lowri yn dweud ei bod wedi teimlo “cyfrifoldeb” pan gafodd hi wybod mai dyma fyddai yn digwydd i’w chymeriad. 

“Mae’n effeithio gymaint o bobl a dwi’n ymwybodol iawn bod lot o’n cynulleidfa ni di cael eu heffeithio yn uniongyrchol neu’n ail law efo aelod teulu efo canser, yn enwedig canser y fron," meddai.

Ond mae’n falch ei bod hi yn cael y cyfle i actio yn y stori hon meddai. 

“Dwi’n meddwl bod o yn bwysig i gyfleu stori fel hyn ar raglen fel Rownd a Rownd.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.